Mae gwleidyddion mwyaf blaenllaw America ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrngedau i’r actor arloesol Sidney Poitier a fu farw yn 94 oed.

Ef oedd y dyn du cyntaf i ennill Oscar am yr actor gorau, ac roedd yn enwog am ei ran mewn ffilmiau fel The Heat of the Night, Blackboard Jungle a Guess Who’s Coming To Dinner.

“Roedd Sidney yn fwy nag un o’r actorion gorau yn ein hanes,” meddai’r Arlywydd Joe Biden. “Roedd ei berfformiadau eiconig yn dal drych at agweddau hiliol America yn yr 1950au a’r 1960au.

“Goleuodd lwybr i’n cenedl ei ddilyn, a gadawodd waddol sy’n cyffwrdd pob rhan o’n cymdeithas heddiw.”

Ychwanegodd yr is-arlywydd Kamala Harris:

“Fe wnaeth Sidney Poitier drawsnewid ein byd ar ac oddi ar y sgrin.

“Fel actor a enillodd Oscar, fe wnaeth hyrwyddo ein deialog ar hil a hawliau sifil ar adeg pan oedd arnom fwyaf o angen hynny.”

Un arall o’i edmygwyr oedd y cyn-arlywydd Barack Obama, a gyhoeddodd lun ohono ef a’i wraig Michelle gyda Sidney Poitier pan gyflwynodd Fedal Rhyddid yr Arlywydd iddo yn y Tŷ Gwyn yn 2009.

“Trwy’r rhannau arloesol a chwaraeodd a’i ddoniau unigryw, roedd Sidney Poiter yn ymgorfforiad o urddas a gras, wrth ddangos grym ffilmiau i ddod â ni’n nes at ein gilydd,” meddai.

“Fe agorodd ddrysau i genhedlaeth o actorion. Mae Michelle a finnau’n cofio at ei deulu a’i lu o gefnogwyr.”

Cafodd Sidney Poitier ei fagu yn y Bahamas, a oedd yn drefedigaeth Brydeinig bryd hynny, cyn dychwelyd i America yn 15 oed lle gweithiodd ar ffermydd ac mewn caffis cyn ymuno â’r American Negro Theater yn Harlem yn yr 1940au.

Trodd at fyd y ffilmiau yn 1949, ac enillodd ei Oscar am ei ran yn y ffilm Lilies of the Field yn 1963.