Mae busnesau yng Nghymru yn parhau i “frwydro ymlaen” er gwaetha effaith y cyfyngiadau newydd dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Daw hyn wrth i bennaeth grŵp lletygarwch UKHospitality Cymru rybuddio bod angen rhagor o gymorth ariannol “ar frys” i fusnesau ar ôl cyfnod “trychinebus” yn ariannol.

Roedd un perchennog busnes yn dweud y byddai cefnogaeth ychwanegol o’r fath yn “bwysig iawn” i fasnachwyr ar draws y sector.

O Ddydd San Steffan ymlaen, cafodd cyfyngiadau – fel y rheol grŵp o chwech – eu cyflwyno mewn lleoliadau lletygarwch, megis tafarndai, bwytai a gwestai, a bu’n rhaid i glybiau nos gau eu drysau am y tro.

Fe wnaethon nhw gyhoeddi y byddai cymorth o £120m ar gael i fusnesau yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd neu sydd wedi eu taro gan yr amrywiolyn Omicron.

Mae nifer o fusnesau lletygarwch yn disgyn i mewn i’r categori hwnnw ac wedi gorfod gwneud newidiadau brys i leihau’r effeithiau ariannol arnyn nhw.

‘Storm berffaith’

Dywedodd John Evans, perchennog Tafarn y Bachgen Du yng Nghaernarfon, fod y cyfyngiadau a’r don ddiweddaraf o achosion Covid wedi effeithio arnyn nhw dros y Nadolig.

“Partis i gyd wedi canslo, staff yn hunanynysu achos eu bod nhw’n dal Covid, mae yna brinder o bobol i weithio, ac mae pobol rŵan yn ofnus o ddod allan,” meddai wrth golwg360.

Mae hi’n “bwysig iawn” bod y sector yn cael rhagor gefnogaeth ariannol, yn ôl John.

“Be ddigwyddith mewn rhai wythnosau fyswn i’n meddwl, fydd pobol yn dechrau meddwl – mae ein costau ni’n codi.

“Mae gennych chi’r storm berffaith ‘does. Mae costau trydan a nwy yn codi, cyflogau eu hunain yn codi, ac mae’r nwyddau rydyn ni’n eu prynu mewn i greu bwyd – y costau bwyd – yn codi.

“Ar y funud rydyn ni’n disgwyl yr increases gan y bragdy i weld faint mae cwrw’n mynd i godi.

“Mae o i gyd yn codi’r gost i’r cwsmer, ac wrth gwrs mae gan y cwsmeriaid filiau trydan a nwy eu hunain i’w talu.

“Wrth adio’r rheiny i gyd at ei gilydd, mae hi fel ryw fath o balancing sheet dydi. Mae un ochr yn codi’n aruthrol ac mae’n mynd i effeithio’r ochr arall dydi.”

Mae UKHospitality Cymru wedi dweud y dylid codi’r cyfyngiadau sydd mewn grym yn y sector lletygarwch, ond dydi John Evans ddim yn credu y byddai hynny’n gwneud “lot o wahaniaeth”.

‘Falch bod nhw ddim wedi dod cyn y Nadolig’

Roedd Medina Rees, perchennog bwyty Medina yn Aberystwyth, yn teimlo’u bod nhw wedi cadw eu pennau uwchben y dŵr er gwaetha’r cyfyngiadau.

“Dim ond y rheol o chwech yw’r unig beth sydd wedi effeithio ni a dweud y gwir,” meddai wrth golwg360.

“Heblaw hynny, rydyn ni wedi cadw systemau un ffordd mewn lle, a chadw ymbellhau cymdeithasol mewn lle, ac mae’r tîm i gyd yn gwisgo masgiau.

“Does dim lot wedi newid i ni oni bai ein bod ni’n methu â chymryd grwpiau o fwy na chwech.”

Ychwanegodd Medina: “Ro’n i’n falch bod nhw ddim wedi dod cyn y Nadolig.

“Roedd hi’n neis gweld pobol, yn enwedig teuluoedd, yn gallu cwrdd â’i gilydd heb i gynlluniau gael eu sbwylio.”

‘Brwydro ymlaen’

Wrth ystyried busnesau sydd wedi ei chael hi’n anodd yn ystod Covid, roedd Medina yn cyfri ei hun yn lwcus eu bod nhw ddim wedi cael eu heffeithio fel busnesau eraill.

“Rydyn ni’n ffodus bod ein hadeilad ni’n ddigon o faint, felly rydyn ni gallu gweithio o gwmpas pethau rhywfaint,” meddai.

“Oherwydd beth rydyn ni wedi mynd trwyddo yn ystod y pandemig, mae gyda ni lot o bethau eraill yma – mae’r siop gyda ni, mae gennyn ni wasanaeth takeaway ar-lein yn gwerthu prydiau parod a bocsys llysiau ac ati.

“Mae hyn i gyd yn anodd ei drefnu ond dyna beth sy’n cadw ni fynd. Rydyn ni’n trïo gwneud bach o bob dim, felly pan mae un peth yn mynd lawr, mae rhywbeth arall yn codi yn ei le.

“Brwydro ymlaen rydyn ni’n ei wneud a gwneud beth bynnag allwn ni ei wneud i gadw’r tîm i fynd.”

Busnesau lletygarwch Cymru “angen rhagor o gymorth ariannol ar frys wedi Nadolig trychinebus”

“Os nad yw cymorth ariannol ar gael yn gyflym, mae effeithiau masnachol difrifol yn anochel,” yn ol UKHospitality Cymru