O ddyfroedd y môr i’r glannau, mae cannoedd o filltiroedd o’n harfordir yma yng Nghymru yn eiddo i Frenhines Lloegr, a hynny drwy Ystâd y Goron.

Tra bo’r tiroedd hyn yng ngafael San Steffan, mae’r refeniw sy’n cael ei gynhyrchu gan yr ystâd yn mynd i goffrau’r Trysorlys yn Llundain.

Wrth i rai arweinwyr byd deithio i Glasgow yr wythnos hon ar gyfer Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd COP26, mae yna nawr ffocws ar botensial ynni adnewyddadwy sy’n cael ei greu gan asedau naturiol arfordir Cymru.