Mae ffotograffydd o Gernyw wedi creu arddangosfa aml-gyfrwng sydd i’w gweld ym Mae Colwyn.

Dymuniad Lottie Davies yw dathlu ei gwreiddiau Cymreig a chysylltiad ei theulu â Thrên Bach yr Wyddfa…

Er mai yng Nghernyw y mae’r ffotograffydd Lottie Davies yn byw, ac yn Guildford, Surrey y cafodd ei magu, mae hi a’i theulu “yn hynod o falch” o’u gwreiddiau Cymreig.