Mae hyfforddwyr Academi Bêl-droed Dinas Caerdydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. Mis diwethaf daeth y cyhoeddiad trist bod Craig Bellamy, cyn-reolwr yr academi, yn gadael ei swydd gydag Anderlecht a’i fod yn dioddef gydag iselder. Wedyn clywsom fod James Rowberry, cyn-hyfforddwr arall gyda’r academi, yn cymryd yn mynd i fod yn rheolwr newydd Casnewydd. Ac ar ôl i Mick McCarthy adael ei swydd yn rheolwr Caerdydd yr wythnos yma, cyhoeddodd y clwb mai rheolwyr y tîm dan 23 fydd yn camu mewn t