Ar un olwg o leia’, mae’n bosib bod Boris Johnson yn gwbl gywir … nid ailgylchu ydi’r ateb go-iawn i broblem y plastig. Yn y diwedd, rhaid cael plastigau sy’n pydru’n ddim, neu ddod o hyd i ddefnyddiau eraill … neu dorri’n ôl yn ddychrynllyd ar ein defnydd.
Mater arall oedd pw-pwian ailgylchu yn llwyr ac awgrymu nad oedd pwynt o gwbl yn y broses, gan roi esgus i bobol wneud dim a thaflu pob math o ddeunyddiau plastig i safleoedd gwastraff.