Mae’r Crysau Duon yn dod â’u Haka i’r brifddinas ddydd Sadwrn, a mawr yw’r edrych ymlaen.

Seland Newydd yw tîm rygbi gorau’r blaned ac mae eu hymweliadau wastad yn fôr o gyffro.

Ond mae yna gwmwl du dros yr hwrli-bwrli y tro hwn.

Ni fydd modd setlo lawr ar y soffa toc wedi pump i wylio’r gêm rhwng Cymru a Seland Newydd yn fyw ar S4C na’r BBC.

Cwmni Amazon sydd wedi talu’r pris mwyaf am gael dangos yr ornest.