Does dim byd i’n hatal ni yng Nghymru rhag cael rhywbeth fel Squid Game yn y Gymraeg, os yw’r syniad yn un da. Dyma farn Roger Williams, awdur a chynhyrchydd y ffilm arswyd Cymraeg newydd, Gwledd.

Mae’r gyfres Squid Game o Dde Corea wedi ennyn sylw drwy’r byd ers cael ei rhyddhau ym mis Medi eleni – dyma’r gyfres sydd wedi cael ei gwylio fwyaf erioed ar Netflix.