Mae ugain o ddirwyon wedi cael eu rhoi yn sgil y partïon honedig a gafodd eu cynnal yn Downing Street yn ystod y cyfnodau clo, yn ôl yr heddlu.

Dywed Heddlu Llundain y bydd yr hysbysiadau am ddirwyon yn cael eu cyfeirio at Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO, a nhw fydd yn cyflwyno’r dirwyon.

Mae disgwyl y bydd mwy o ddirwyon yn cael eu rhoi wrth i’r heddlu barhau i ystyried y dystiolaeth.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, nad yw hi’n bosib gwadu bod Boris Johnson wedi dweud celwydd ar y mater.

“Fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud dro ar ôl tro yn y Senedd na chafodd yr un parti ei gynnal yn Downing Street,” meddai ar Twitter.

“Heddiw, mae’r Met wedi cyflwyno ugain dirwy am bartïon yn Downing Steet.

“Felly, yn ddiymwad fe wnaeth Boris Johnson ddweud celwydd wrth y Senedd a’r cyhoedd.”

“Os cafodd y gyfraith ei thorri, fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud celwydd wrth y Senedd. Dyna ei diwedd hi,” meddai Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, cyn i’r manylion am y dirwyon gael eu cadarnhau.

‘Halen yn y briw’

Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, wedi dweud bod rhaid i Boris Johnson adael ei rôl fel Prif Weinidog.

“Ar ôl deufis o amser yr heddlu, ymchwiliadau i ddeuddeg parti, a chwestiynu dros gant o bobol, mae Downing Street Boris Johnson wedi’i chanfod yn euog o dorri’r gyfraith,” meddai.

“Mae’r diwylliant yn cael ei sefydlu’r o’r top. Mae’r baich yn gorffen gyda’r Prif Weinidog, a dreuliodd fisoedd yn dweud celwydd wrth y cyhoedd ym Mhrydain, a dyna pam fod rhaid iddo fynd.

“Mae’n warthus bod Llywodraeth Boris Johnson wedi ymddwyn fel nad yw’r rheolau’n berthnasol iddyn nhw, pan oedd gweddill y wlad yn dilyn eu rheolau.

“Mae hyn wedi rhwbio halen yn y briw i filiynau o bobol wnaeth aberthon anferth.”

‘Mwy o ddirwyon yn bosib’

“Mae’r ymchwiliad i’r cyhuddiadau o dorri rheoliadau Covid-19 yn San Steffan a Downing Street wedi cyrraedd y pwynt lle mae’r hysbysiadau cosb benodedig cyntaf yn cael eu cyfeirio at Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO,” meddai Heddlu Llundain mewn datganiad.

“Byddwn ni’n dechrau heddiw drwy gyfeirio ugain hysbysiad cosb benodedig am achosion o dorri rheoliadau Covid-19.

“Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i fynd ar ôl yr ymchwiliad hwn yn sydyn ac rydyn ni wedi cwblhau sawl asesiad.

“Fodd bynnag, gan fod nifer sylweddol o ddeunydd ymchwilio ar ôl i’w asesu, mae hi’n bosib y bydd mwy o gyfeiriadau’n cael eu gwneud i ACRO os bydd yn cyrraedd y trothwy tystiolaethol.”

Dydy’r heddlu ddim yn gallu cadarnhau faint o unigolion fydd yn derbyn dirwyon, na datgelu pwy yw’r unigolion.

Bydd Downing Street yn cadarnhau a yw Boris Johnson wedi derbyn dirwy, ond does dim disgwyl iddyn nhw gadarnhau enwau aelodau eraill o’u staff sydd wedi derbyn dirwyon.