Bydd gwylwyr ffrwd fyw o nyth y gweilch y pysgod Llyn Clywedog yn cael profiad gwylio gwell eleni.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod y gwalch benywaidd o’r enw Seren (5F) wedi dychwelyd i’w nyth ar gyfer tymhorau’r gwanwyn a’r haf.
Ar sail adborth gan ymwelwyr, aeth swyddogion ati i wneud gwelliannau sylweddol i’r offer ffrydio byw sydd wedi bod ar gael iddyn nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gydag un camera newydd yn canolbwyntio ar y nyth ac un arall yn gallu rhannu lluniau o ddwy gangen ger y nyth.
Roedd y camera’n cynnig ongl ehangach yn rywbeth roedd ymwelwyr yn awyddus i’w gael wrth roi adborth, a byddan nhw ar gael mewn ffrwd byw ar wahân ar y wefan fel bod modd i ymwelwyr wylio’r ddau gamera ar yr un pryd.
Am y ddau dymor diwethaf, rhedodd y ffrwd byw o 7yb tan 7yh ond y tymor hwn, y gobaith yw y bydd y ffrwd yn cael ei rhedeg 24 awr y dydd gan fod paneli solar wedi cael eu gosod i bweru’r offer.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gobeithio gallu defnyddio technoleg is-goch i ganiatáu gwylio yn ystod y nos.
Mae’r ffrydiau byw ar gael am ddim ar YouTube drwy chwilio am ‘Llyn Clywedog Ospreys’, neu drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://bit.ly/GweilchLlynClywedogOspreys.
‘Cipolwg agosach fyth ar yr adar arbennig’
“Mae’r gwanwyn yn sicr wedi cyrraedd pan fod gwalch y pysgod yn dychwelyd i Lyn Clywedog,” meddai John Williams, cynorthwyydd technegol rheoli tir ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Gyda’n galluedd gwylio gwell, gobeithiwn allu rhoi cipolwg agosach fyth i bobl ar yr adar arbennig hyn.
“Er ein bod yn gobeithio am dymor llwyddiannus arall, rydym yn gwybod yn iawn bod natur yn anrhagweladwy ac y gallai unrhyw beth ddigwydd. Yr unig ffordd o ddarganfod yw cadw llygad ar y ffrydiau byw.
“Mae niferoedd gweilch y pysgod yn gwella ar ôl cael eu herlid am ddegawdau yn y Deyrnas Unedig. Mae prosiectau fel hyn yn helpu i roi troedle cryfach iddynt ac i addysgu pobl am yr adar hyfryd hyn.
5F
Adar mudol sy’n gaeafu yn Affrica yw gweilch y pysgod.
Mae’n hysbys bod 5F, gwalch breswyl Llyn Clywedog, yn treulio’r gaeaf yng Nghors Tanji yn y Gambia, Gorllewin Affrica.
Y gobaith yw y bydd y gwalch preswyl arall yn dychwelyd i’r nyth ar gyfer y tymor, a’u bod yn atgenhedlu eto.
Gall gweilch y pysgod fagu hyd at dri chyw mewn tymor.