Mae un o deithiau mwyaf arwyddocaol Gerallt Gymro bellach ar gael i’w hail-fyw ar ffonau clyfar.

Pwrpas ei drydedd groesgad o amgylch y wlad dros 800 mlynedd yn ôl oedd recriwtio crwsadwyr, wrth iddo ymuno ag Archesgob Caergaint dros gyfnod y Pasg yn 1188 i ddod â miloedd o ddynion at ei gilydd.

Mae ei gofnod manwl o’r daith yn un o’r prif ffynonellau o wybodaeth sydd gennym am Gymru yn ystod y ganrif wedi’r goncwest Normanaidd.

Gyda chefnogaeth yr Eglwys yng Nghymru, mae’r prosiect wedi darparu codau QR ar gyfer 37 o leoliadau o bwys i Gerallt Gymro oedd yn rhan o’i daith.

Gall unrhyw un sy’n sganio’r codau QR ddarllen rhagor am yr hyn welodd e ar ei daith, ynghyd â mwy am hanes yr ardal leol.

Mae gan bob lleoliad dudalen unigryw ar y wefan historypoints.org ac ar bob tudalen, mae dolen i’r lleoliad nesaf a’r lleoliad blaenorol ar y daith, gan alluogi pobol i ddilyn y daith yn gorfforol neu’n rithiol o’u cartrefi ar gyfrifiaduron.

Conwy oedd man cychwyn y wefan HistoryPoints, a hynny ym mis Ionawr 2012 fel arbrawf i alluogi trigolion lleol ac ymwelwyr i ddarllen am hanes llefydd cyfagos ar ffonau clyfar neu ar dabledi.

Ers ei sefydlu, mae’r prosiect wedi creu tudalennau gwe a chodau QR cyfatebol ar gyfer mwy na 2,000 o leoliadau yng Nghymru, gan gynnwys adeiladau hanesyddol, pontydd, cofebau a safleoedd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau neu bobol o bwys yn hanes Cymru.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n bennaf gan fusnesau lleol sy’n noddi’r tudalennau gwe, ac mae’n cynnig y cyfle i gymdeithasau hanes, elusennau ac amgueddfeydd i gyflwyno hanes mewn ffordd hygyrch.

Mae’r daith ar gael yn Gymraeg a Ffrangeg, ac mae’n cynnwys eglwysi, eglwysi cadeiriol a chestyll oedd yng Nghymru cyn cyfnod Edward I a muriau trefi ganrif ar ôl taith Gerallt.

Bu farw Gerallt Gymro yn 1223, ac mae e wedi’i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ynghyd â’r Arglwydd Rhys, gyda’r codau QR yn helpu ymwelwyr â’r eglwys gadeiriol i ddarganfod mwy am y ddau.

‘Dod â Gerallt Gymro i gynulleidfaoedd newydd’

“Mae amserlen Gerallt yn adlewyrchu’r llefydd hynny yng Nghymru oedd yn bwysig yn niwedd y ddeuddegfed ganrif, ymhell cyn teulu’r Tuduriaid neu’r Chwyldro Diwydiannol,” meddai Rhodri Clark, golygydd y wefan HistoryPoints.org.

“Ni allai unrhyw ymgyrch recriwtio ar gyfer y crwsad fforddio hepgor Caerllion, Brynbuga, Llanbadarn Fawr na Nefyn, er enghraifft.

“Rydym yn gobeithio bod rhoi’r wybodaeth hon ar gael yn y fan a’r lle yn helpu i ddod â chasgliadau rhyfeddol Gerallt i gynulleidfa newydd.”

Mae’r Esgob Wyn Evans, archifydd yr Eglwys yng Nghymru a chyn-Esgob Tyddewi, yn annog pobol i ddilyn y daith.

“Mae’r fath ymateb arloesol i un o’r eglwyswyr gorau yng Nghymru i’w groesawu’n fawr,” meddai.