Mae Conradh na Gaeilge wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o amddifadu siaradwyr Gwyddeleg o’u hawliau, gan ddweud eu bod nhw “wedi siomi, ond heb eu synnu” bod cytundebau rhyngwladol yn parhau i gael eu hanwybyddu.
Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo cyflwyno deddfwriaeth Degawd Newydd Dull Newydd cyn diwedd cyfnod y Cynulliad, ond dydy hynny ddim wedi digwydd.
Roedd hi’n edrych yn debygol fod cydsyniad am ddigwydd dros y penwythnos ac ar bod y ddeddfwriaeth ddrafft wedi cael ei pharatoi ac yn aros am sêl bendith, daeth cadarnhad wedyn gan Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, na fyddai’n digwydd cyn etholiadau Stormont “oherwydd y pwysau ar amserlen y senedd”.
Mae Conradh na Gaeilge o’r farn fod y llywodraeth wedi cael hen ddigon o amser a chyfle i gyflwyno’r ddeddfwriaeth ers ymrwymo iddi fis Mehefin y llynedd, ac mai “diffyg ewyllys gwleidyddol, yn hytrach na diffyg amser” sy’n gyfrifol am y sefyllfa bresennol.
‘Distawrwydd llethol’
Yn ôl Paula Melvin, Llywydd Conradh na Gaeilge, fe fu “distawrwydd llethol” gan Lywodraeth San Steffan ers haf diwethaf.
“Mae’r ffaith nad oedd yr NIO (Swyddfa Gogledd Iwerddon) yn gallu rhoi diweddariad uniongyrchol i’n cymuned ar y penderfyniad diweddaraf i ohirio’r ddeddfwriaeth hon yn ychwanegu halen i’r briw,” meddai.
“Ni all fod unrhyw amheuaeth, mae Llywodraeth Prydain wedi cael y rhan fwyaf o’r chwe mis diwethaf i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon cyn i’r mandad ddod i ben, ac maen nhw wedi methu pob dyddiad terfyn drwyddi draw.
“Os ydych chi’n dechrau cyfri Cytundeb St Andrew’s, maen nhw wedi cael y rhan fwyaf o 16 mlynedd i wneud hyn.
“Maen nhw wedi penderfynu bob cyfle i beidio â blaenoriaethu’r ddeddfwriaeth hon, neu ei chicio hi ymhellach i lawr y lein yn ôl eu hagenda wleidyddol eu hunain.
“Dydyn ni ddim wedi ein synnu.
“Rydyn ni wedi dweud wrthyn nhw droeon, os na chaiff ei ddatrys, y byddai’r mater hwn yn codi dro ar ôl tro yn yr etholiad ac yn parhau y tu hwnt i hynny i fod yn fater craidd sy’n dal ar y gweill.
“Fe wnaethon nhw benderfynu peidio gweithredu.
“Bydd ein cymuned yn parhau i drefnu a sicrhau bod y mater hwn yn parhau’n amlwg yn ystod yr etholiad a thrwy gydol y trafodaethau fydd yn dilyn i ffurfio Pwyllgor Gweithredol newydd.”
‘Safbwynt ffuantus’
Yn ôl Conchúr Ó Muadaigh, rheolwr eiriolaeth Conradh na Gaeilge, mae gan y mudiad “ddyletswydd i’n cymuned i fod yn blwmp ac yn blaen”.
“Mae’r weithred ddiweddaraf hon o dwyll gan Lywodraeth Prydain ar hawliau’r iaith Wyddeleg yn sarhad anhygoel i ni i gyd, ac wedi gadael hygrededd y llywodraeth hon yn deilchion.
“Mae’n safbwynt cwbl resymol a dilys ein bod yn disgwyl i lywodraethau democrataidd gadw at eu haddewidion a chadw at y terfynau amser maen nhw wedi ymrwymo iddyn nhw’n gyhoeddus.
“Mae gan Lywodraeth Prydain enw erchyll pan ddaw i’r iaith Wyddeleg.
“Maen nhw’n llywodraethu dros gyfraith benydiol sy’n gwahardd y Wyddeleg o’n llysoedd, tra bod deddfau tebyg wedi’u diddymu ddegawdau yn ôl yng Nghymru a’r Alban; ac maen nhw wedi cael eu beirniadu’n gyson gan arbenigwyr rhyngwladol am fethu â chyflawni eu dyletswyddau rhyngwladol yn unol â chytundebau a siartrau maen nhw wedi eu derbyn yn rhan o gyfraith fewnol y wlad.
“Mae cannoedd o filiau wedi cael eu cyflwyno neu eu trafod gerbron y senedd yn ystod y sesiwn bresennol, ac o ystyried bod y bil hwn wedi’i gytuno ymlaen llaw yn rhan o’r Degawd Newydd Dull Newydd ac wedi cael sicrwydd y byddai’n cael mynd rhagddo’n gyflym, mae dweud bellach nad oes ganddyn nhw amser i gyflwyno deddfwriaeth iaith Wyddeleg yn safbwynt cwbl ffuantus i’w gymryd.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Iwerddon, fel cyd-warantwyr yr holl gytundebau hyn, sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn groch ar y mater hwn.
“Byddwn ni nawr yn gweithio’n galed dros yr wythnosau i ddod i sicrhau ymrwymiadau newydd gan bleidiau lleol i Ddeddf Iaith Wyddeleg, strategaeth ar gyfer yr iaith Wyddeleg a datblygu Addysg Cyfrwng Gwyddeleg yn rhan o’u maniffestos yn Etholiadau’r Cynulliad sydd i ddod.”