Roedd y byd ffilm wedi sioc ar noson yr Oscars pan gamodd yr actor Will Smith i’r llwyfan a tharo’r digrifwr a chyflwynydd Chris Rock am wneud hwyl am ben ei wraig, sydd ag alopecia. Roedd y jôc yn cyfeirio at ail-wneud y ffilm G.I. Jane, sydd â phrif gymeriad sydd wedi eillio’i phen. Mae’r digwyddiad wedi hollti barn ac yma, mae’r digrifwr Chris Chopping o Gaerdydd yn lleisio’i farn yntau – fel digrifwr ond hefyd fel person “yn y byd go iawn”.

 

Fel digrifwr, dw i’n ofni y bydd pobol yn meddwl bod Will Smith wedi rhoi rhwydd hynt iddyn nhw ddod i fyny ar y llwyfan a fy nharo i os nad ydyn nhw’n hoffi fy jôcs. Fel person cyffredin yn y byd go iawn, dw i ddim yn meddwl bod trais yn ffordd dda o ddatrys problemau. Roedd yr hyn wnaeth Will Smith yn fyrbwyll ac yn anghywir, ond roeddwn yn casáu jôc Chris Rock.

Mae’n ymddangos bod yna ymdeimlad, os gwnewch chi jôc am rywun yn llygad y cyhoedd, fod hynny’n iawn oherwydd bydd eu harian a’u llwyddiant yn eu diogelu nhw rhag cael eu brifo.

Dw i ddim yn siŵr fy mod i’n cytuno â hynny ond beth bynnag, dw i ddim yn hoffi gweld pobol ar y teledu yn gwawdio rhywun am fater meddygol. Yn yr un modd, dw i ddim yn hoffi gweld pobol yn gwneud jôcs am ‘fenyw dew’ yn llygad y cyhoedd neu’n gwawdio Donald Trump trwy awgrymu bod ganddo bidyn bach.

Mae’n mynd y tu hwnt i’r person enwog oherwydd ei fod yn atgyfnerthu naratif i lawer o bobol all fod yn gwylio gartref sydd yn teimlo cywilydd oherwydd eu siâp neu ran o’u corff neu salwch neu anabledd corfforol amlwg nad oes modd ei reoli.

Efallai ei fod yn edrych fel “dyrnu i fyny” oherwydd bod y targed yn enwog, ond yn y pen draw mae’n “dyrnu i lawr” ar griw o bobol sy’n ceisio ymlacio gartref nad oedden nhw’n disgwyl ymosodiad ar eu hunan-barch drwy’r teledu. Dyw e ddim yn anodd. Ymosodwch ar ymddygiad pobol ar bob cyfri, ond ddim ar eu hymddangosiad.

Dyw’r uchod ddim wedi’i fwriadu fel anogaeth i Will Smith i daro pobol. Peidiwch â tharo pobol!

Colli gwallt: pwnc anodd sy’n dod â chywilydd, tristwch, galar, gorbryder, iselder a phoen

Naomi Rees

Merch o Fachynlleth sy’n byw ag alopecia sy’n lleisio ei barn ar ffrae fawr yr Oscars a’i effaith ar bobol, yn enwedig merched, sydd â’r cyflwr