Roedd y byd ffilm mewn sioc ar noson yr Oscars pan gamodd yr actor Will Smith i’r llwyfan a tharo’r digrifwr a chyflwynydd Chris Rock am wneud hwyl am ben ei wraig, sydd ag alopecia. Roedd y jôc yn cyfeirio at ail-wneud y ffilm G.I. Jane, sydd â phrif gymeriad sydd wedi eillio’i phen. Mae’r digwyddiad wedi hollti barn ac yma, mae Naomi Rees, merch o Fachynlleth sy’n byw ag alopecia ac sy’n weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol yn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr, yn rhannu ei barn.

Wnes i ddim gwylio’r Oscars, ond dw i wedi cael cyfle i ddarllen, gwylio, a gwrando ers hynny. Dw i’n sicr, a dw i’n gwybod y bydd eraill o’r gymuned alopecia wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Fe wnaeth dyn, a oedd yn gwybod y byddai miliynau o bobol yn gwylio, wneud ‘jôc’ a oedd yn gwneud hwyl ar ben Jada Pinkett Smith, dynes gref, brydferth. Ond, am wn i ei fod o’n ddigrifwr, felly mae hynny’n iawn?!

Cyn i mi gario ymlaen, dydw i ddim yn credu mai trais yw’r ateb. Ond, yn dod gan rywun sy’n dioddef o alopecia, dw i’n deall o ble ddaeth rhwystredigaeth Will Smith. Ond yn anffodus, roedd slap yn benderfyniad anghywir.

Dw i’n teimlo bod Will wedi colli cyfle allweddol i fedru dal sylw pobol, a sôn ac addysgu pobol am y cyflwr meddygol. Ond os ydy bwli’n meddwl ei bod hi’n iawn defnyddio cyflwr meddygol fel sail i jôc, byddwn yn disgwyl i fy mhartner i sefyll fyny drosof. Na, ddim mynd ar lwyfan a defnyddio trais ond yn sicr rhannu rhywfaint o wybodaeth ac addysg ledled y byd.

Mae lot wedi sôn bod Will yn chwerthin ar y jôc, ond roedd o’n edrych yn lletchwith, a dw i’n meddwl ei fod yn chwerthin oherwydd ei fod o’n teimlo’n anghyfforddus, cyn edrych ar wyneb Jada.

Mae’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol yn rhy brysur yn canolbwyntio ar y digwyddiad yn hytrach na’r achos tu ôl iddo, sef alopecia.

Yr wythnos ddiwethaf roeddwn i’n darllen am ferch ddeuddeg oed o America, Rio. Penderfynodd hi roi terfyn ar ei bywyd gan ei bod hi wedi cael ei bwlio’n ddifrifol yn yr ysgol oherwydd ei bod hi’n dioddef gydag alopecia. Roedd hyn yn cynnwys pobol yn tynnu ei wig oddi ar ei phen.

Mae colli gwallt, i fenywod yn enwedig, yn bwnc mor anodd sy’n dod â chywilydd, tristwch, galar, gorbryder, iselder a phoen.

Mae alopecia’n effeithio pawb yn wahanol. Mewn byd lle mae sut rydyn ni’n edrych mor, mor bwysig i ni, mae’n anodd. Dw i wedi, a byddaf yn, cofleidio bywyd gydag alopecia nawr felly mae hi’n amser i eraill gofleidio’r rhai sydd wedi colli’u gwallt a stopio cywilyddio pobol ar sail eu hymddangosiad.

Yr oll dw i’n ei ofyn yw bod pobol yn addysgu eu hunan, eu ffrindiau a’u plant am alopecia. Dyw gwneud hwyl ar ben eraill ddim yn ocê. Mae’n brifo, yn feddyliol, yn gorfforol, ac yn gymdeithasol.

Dyrnu, dyrnu i fyny a dyrnu i lawr… ymateb digrifwr i ffrae fawr yr Oscars

Chris Chopping

Digrifwr yng Nghaerdydd sy’n pwyso a mesur ar bwy roedd y bai am y digwyddiad ar noson fwya’r byd ffilmiau