Mae Mentrau Iaith Cymru am agor Cwis Dim Clem allan i ysgolion ail iaith y flwyddyn nesaf, ar ôl denu’r nifer fwyaf o gystadleuwyr eleni.

Ysgol Aberaeron enillodd y cwis allan o 188 o ysgolion a thros 3,500 o blant oedd wedi cystadlu ddydd Llun (Mawrth 28).

Cwis Cymraeg i blant Blwyddyn 6 ysgolion cynradd Cymru yw Cwis Dim Clem, sydd fel rheol yn digwydd wyneb yn wyneb ond a gafodd ei gynnal yn rhithiol am yr ail waith eleni.

Mae’r Mentrau Iaith unigol wedi bod yn cynnal y cwis yn eu hardaloedd eu hunain ers cyn y Nadolig, gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i’r rownd derfynol.

Y cyflwynwyr Mari Lovgreen ac Owain Williams fu’n cyflwyno’r rownd derfynol.

“Roedd hi mor hyfryd gallu cynnal y Cwis hwn eleni a chael gweld y plant yn eu timoedd ar y sgrin,” meddai Mari Lovgreen.

“Roedd egni y plant bron i’w deimlo, a’u brwdfrydedd yn cymryd rhan yn amlwg iawn. Roedd yna sawl cwestiwn ro’n i’n cael trafferth eu hateb, ond roedd y plant fel petai wedi cael hwyl dda iawn arni!”

Timau’n cystadlu dros Teams

Chwe ysgol oedd yn cystadlu yn y rownd derfynol, a hynny drwy gyfrwng technoleg Teams.

Ysgolion o Lanfairpwll a Threfeglwys ym Maldwyn oedd yn cynrychioli’r gogledd, ysgolion Teilo Sant, Llandeilo ac Ysgol Gynradd Aberaeron yn y de orllewin; a’r pencampwyr blaenorol o Ysgol Pen Cae, Caerdydd a Cynwyd Sant o Faesteg yn y de-ddwyrain.

Ysgol Gynradd Aberaeron enillodd y nifer fwyaf o bwyntiau.

“Fe wnaethon ni fwynhau sialens y cwis yn fawr iawn. Ro’dd hi’n grêt gweld pawb ar y sgrîn a gallu sgwrsio gyda Mari ac Owain. Mae’r holl brofiad wedi bod yn wych,” meddai un o aelodau’r tîm.

‘Hufen ar y gacen’

“Dyma’r tro cyntaf i Ysgol Aberaeron gyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth, ac mae ei hennill mewn cystadleuaeth oedd mor agos yn hufen ar y gacen,” meddai Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cered, Menter Iaith Ceredigion.

“Dwi’n hynod o falch dros y plant sydd wedi bod mor frwd dros y cyfnod cystadlu”.

Yn ôl Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu Mentrau Iaith Cymru, roedd y cwis yn “gyfle gwych i blant gael mwynhau’r iaith Gymraeg a theimlo cyffro cystadleuaeth mewn ffordd ysgafn”.

“Rydyn ni’n awyddus bod plant blynyddoedd 6 yn magu perthynas gadarnhaol â’r Gymraeg wrth iddynt ddod i adnabod ffrindiau a chyfoedion newydd eu hysgolion uwchradd, gan roi’r hyder iddynt barhau i siarad yr iaith ar iard yr ‘ysgol fawr’ fis Medi,” meddai.

Cafodd y rownd derfynol ei chynnal ar Kahoot am y tro cyntaf erioed, a honno’n system ryngweithiol o ateb cwestiynau.