Mae yna enghreifftiau bod tirwedd ac enwau lleoedd yn parhau i gael eu defnyddio i greu hunaniaeth Gymreig, yn ôl Dr Rebecca Thomas o Brifysgol Caerdydd.

Bydd hi’n cymryd rhan yn yr ŵyl Amdani, Fachynlleth dros y penwythnos gan roi sgwrs ar sut mae’r dirwedd wedi cael ei defnyddio i lunio hunaniaethau dros amser.

Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar yr Oesoedd Canol fel arfer, a sut roedd hunaniaethau’n cael eu creu bryd hynny, ond bydd ei sgwrs yn plethu enghreifftiau modern o’r broses hefyd.

Roedd gan awduron ddiddordeb mawr mewn enwau lleoedd, enwau mynyddoedd ac enwau afonydd yn yr Oesoedd Canol, ac roedden nhw’n mynd ati i’w hegluro nhw.

Mae’n dweud bod storïau neu chwedlau weithiau ynghlwm â’r enwau hynny.

“Felly Dinas Emrys yn y gogledd, yn ôl y chwedl dyma le’r oedd Emrys wedi proffwydo i frenin y Brythoniaid, Gwrtheyrn,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r enwau hynny wedyn, a’r storïau, yn cyfrannu at greu hunaniaeth achos mae’n cysylltu’r Cymry gyda’u gorffennol nhw, boed hynny’n orffennol chwedlonol neu yn orffennol hanesyddol.”

Yn y Cyfnod Modern Cynnar, er enghraifft, roedd awduron yn awyddus i chwilio am gysylltiadau rhwng y dirwedd â’r Brenin Arthur oherwydd eu bod nhw eisiau profi ei fodolaeth.

“Roedd Pen y Fan, er enghraifft, yn cael ei chyfeirio ati fel Cadair Arthur yn y cyfnod yna ac roedden nhw’n dweud mai honno oedd cadair Arthur a’i fod yn dystiolaeth bod Arthur wedi bodoli,” meddai wedyn.

Enghraifft fodern ‘bryderus’

Bydd sgwrs Dr Rebecca Thomas yn Amdani, Fachynlleth yn deillio o ysgrif a ysgrifennodd ar gyfer O’r Pedwar Gwynt, Cribo’r Dragon’s Back.

“Be sy’n ddiddorol o safbwynt rhywun sy’n astudio’r broses hyn yn yr Oesoedd Canol oedd, amser roeddwn i’n cerdded yn y Mynyddoedd Duon yn ddiweddar, fe wnes i weld enghraifft eithaf modern o hyd yn digwydd,” meddai.

“Roeddwn i’n cerdded ar hyd cefn fynyddig o’r enw Y Grib, ac fe wnes i stopio i siarad efo dyn oedd yn cerdded ar Y Grib ac fe wnaeth e ofyn i fi ‘Have you woken it?’

“Beth oedd e’n cyfeirio ato oedd ‘the dragon’, a beth oeddwn i’n ddeall wedyn oedd mai’r Grib oedd y ddraig.

“Wedi edrych mewn i hyn ychydig bach ymhellach, fe wnes i weld bod enw newydd wedi cael ei roi i’r Grib, roedd pobol yn dechrau cyfeirio at y Grib fel The Dragon’s Back.

“Roedd e i weld yn fathiad eithaf diweddar, yn y degawdau diwethaf.

“Mae’n debyg mai enwi’r Grib yn The Dragon’s Back oherwydd siâp y tirwedd oedden nhw, bod y tir yn edrych fel ryw fath o ddraig gwsg.

“Roeddwn i’n meddwl bod hyn yn rhyfeddol o debyg, fel strategaeth o egluro enw a bod chwedl yn gysylltiedig ag enw, â’r hyn oedd yn digwydd yn yr Oesoedd Canol.

“Ond beth oedd yn arbennig o ddiddorol, roeddwn i’n meddwl, ac ychydig yn bryderus, bod gyda ni enw’n cael ei greu o gwmpas symbol cenedlaethol, felly mae’n amlwg yn bwysig o ran creu hunaniaeth, ond bod yr iaith Gymraeg wedyn yn colli allan yn y broses hynny achos mae’r enw Cymraeg ‘Y Grib’ yn cael ei roi i un ochr ac mae gen ti symbol cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio’n lle.”

Mae’r pwnc yn un sy’n “peri eithaf lot o bryder” i bobol yn sgil yr holl drafod am newid enwau lleoedd yn ddiweddar, meddai Dr Rebecca Thomas.

“Mae e’n bwnc sydd o ddiddordeb i o bobol,” ychwanega, wrth ddweud ei bod hi’n edrych ymlaen at y sgwrs ym Machynlleth.

“Dw i’n credu bod e’r fath o bwnc y mae gan bobol eu persbectif eu hunan, mae gan bobol eu henghreifftiau eu hunan y maen nhw’n gallu eu trafod.

“Bydd gen i ddiddordeb mawr i weld beth sydd gan bobol eraill i’w ddweud ar y pwnc.”

  • Bydd gŵyl ddwyieithog Amdani, Fachynlleth yn cael ei chynnal rhwng Ebrill 1 – 3 gan roi llwyfan i amrywiaeth o artistiaid, beirdd, awduron, a cherddorion yn Y Wynnstay ym Machynlleth ac yn Senedd-dŷ Owain Glyndŵr. Mae’r siaradwyr eraill yn cynnwys Rhys Mwyn, Manon Steffan Ros, Rhian Parry, Hywel Griffiths, a Mike Parker, a bydd perfformiad gan Dafydd Iwan ar nos Sadwrn (Ebrill 2).