Bydd Gwobrau Busnes y Daily Post/North Wales Live 2021 yn cael eu cynnal heno (nos Iau, Mawrth 31) ym Mhrifysgol Bangor.
Nod y gwobrau yw cydnabod pob math o fusnesau yn y gogledd, o gwmnïau bychain i’r mentrau mawrion.
Roedd disgwyl i’r gwobrau gael eu cynnal fis Rhagfyr diwethaf, ond cafodd y digwyddiad ei ohirio yn sgil cynnydd mewn achosion Covid ar y pryd.
Emma Jesson, cyflwynydd tywydd ITV, fydd yn cyflwyno’r noson.
“Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd mor anodd i fusnesau, ond roedd y beirniaid wedi’u rhyfeddu â safon y cystadleuwyr,” meddai Owen Hughes, Golygydd Busnes y Daily Post.
“Maen nhw wedi amlygu gwytnwch ac arloesedd anhygoel ein cymuned fusnes yng ngogledd Cymru eto fyth.”
Rhestr fer 2021
Gwobr Busnes Newydd
- Enhanced Healthcare – asiantaeth ym Mae Colwyn sy’n arbenigo mewn recriwtio a hyfforddi staff gofal iechyd a nyrsys.
- Scuba Escape – ystafell ddengyd dan dŵr cyntaf o’i fath yn Chwarel Vivian yn Llanberis.
- The Sorbus Tree – cwmni darparu prydau parod sy’n danfon bwyd wedi’u lleoli yn Rhuthun.
Gwobr Bwyd a Diod
- Castell Gwyn Ltd – cwmni gwneud cawsiau meddal a siytnis o laethdy yn Rhuddlan.
- Bwyty Signatures– bwyty yn Spa Aberconwy yng Nghonwy.
- Distyllfa Wisgi Aber Falls – distyllfa jin a wisgi yn Abergwyngregyn.
Gwobr Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Montpenny – cwmni cyfathrebu o Wrecsam.
- RCS – sefydliad nid er elw sy’n cefnogi pobol i lwyddo yn y gwaith.
- Theatr Clwyd – canolfan celfyddydau a theatr yn yr Wyddgrug.
Gwobr Busnes Gwyrdd
- Always Aim High Events – busnes ar Ynys Môn sy’n trefnu digwyddiadau rhedeg a beicio a threiathalons.
- Sŵ Môr Môn – sŵ fôr ym Mrynsiencyn, Ynys Môn.
- Stad Rhug – stad fferm organig ger Corwen.
Gwobr Gymunedol
- The Little Wren – academi colur parhaol yng Nghaernarfon.
- Tîm Pêl-droed Cymunedol Dreigiau Gogledd Cymru – tîm pêl-droed elusennol sy’n codi arian at sawl achos.
- Iorwerth Arms – tafarn ym Mryngwran a gafodd ei hachub gan y gymuned.
Busnes y flwyddyn (hyd at 25 gweithiwr)
- FFP Solutions Ltd: busnes brocer ariannol yn Llanelwy.
- Glaslyn: parlwr hufen iâ a thŷ pitsa hynaf Parc Cenedlaethol Eryri ym Meddgelert.
- John Kelly Construction Services Ltd: cwmni adeiladu a pheirianneg sifil o Ynys Môn.
Busnes y flwyddyn (dros 26 gweithiwr)
- Grŵp Brenig – cwmni adeiladu sydd wedi’u lleoli ym Mochdre.
- Godfrey Group Facilities Ltd – cwmni o Ddinbych sy’n cynnig gwasanaethau glanhau ar gyfer parciau gwyliau.
- Gwasanaeth Bwyd Harlech – cwmni sy’n cyflenwi bwyd i sefydliadau arlwyo.
Gwobr Arloesedd a Thechnoleg
- Aparito – cwmni o Wrecsam sy’n trawsnewid gofal iechyd.
- Cufflink – cwmni seibrddiogelwch o Ynys Môn sy’n canolbwyntio ar wneud busnesau’n ddiogel.
- Haia – busnes o Ynys Môn wnaeth greu platfform ar-lein i bobol allu cynnal digwyddiadau ar-lein neu ddigwyddiadau hybrid.
Bydd Gwobr Dewis y Beirniad a Pherson Busnes y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi ar y noson.