Mae rhwydwaith TAN Cymru yn croesawu cyhoeddiad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ddyfodol gwasanaethau bws, gan ddweud ei fod yn cynnig cyfle i ddarparu gwasanaethau gwell a rhatach, ac sydd wedi’u teilwra ar gyfer cymunedau cefn gwlad.
Er bod teithio ar y bws yn aml yn brif opsiwn amgen i deithio mewn car mewn ardaloedd gwledig, gall gwasanaethau fod yn annibynadwy, yn ddrud ac yn anymarferol, a dydy cystadleuaeth rhwng cwmnïau ddim er lles cwsmeriaid, meddai’r rhwydwaith.
Yn ôl Paula Renzel, ymgyrchydd ffyrdd a hinsawdd gyda TAN Cymru, mae’r cyhoeddiad “i’w groesawu’n fawr”.
“Mae’n hen bryd bod y cam wedi’i gymryd i gynnig gwasanaethau bws sydd yn addas ar gyfer eu pwrpas,” meddai.
“Dydy 80% o ddefnyddwyr bws ddim yn berchen ar gar, ac maen nhw bron yn llwyr ddibynnol ar y bws i fynd i’r gwaith, gweld ffrindiau a byw bywydau gwerthchweil.
“Ond eto, mae’r rhwydwaith bws wedi bod yn eu siomi nhw am yn rhy hir, gan adael nifer o bobol yn ddiymgeledd.
“Mae’n dda gweld bod Llywodraeth Cymru’n uchelgeisiol wrth ddysgu o’r systemau cymhleth a gafodd eu sefydlu yn Lloegr a’r Alban.
“Gobeithio y bydd hyn yn eu galluogi nhw i gyflwyno gwelliannau’n gynt nag yn Lloegr.
“Yno, bum mlynedd ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio, dydy rhyddfreinio ddim wedi digwydd eto.
“Edrychwn ymlaen at y dydd pan mai rhwydwaith bws dibynadwy a hygyrch fydd asgwrn cefn rhwydwaith o drafnidiaeth fforddiadwy a chynaliadwy.
“Bydd hyn yn hanfodol os ydym am roi pobol cyn elw.
“Rhaid i ni ei gwneud hi’n hawdd i bawb wneud y peth iawn er mwyn lleihau allyriadau trafnidiaeth yn ddigon cyflym.
“Bydd hyn yn gofyn bod Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r newidiadau hyn heb oedi.
“Mae angen hefyd iddyn nhw eu cefnogi nhw gyda’r arian sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaethau y mae dirfawr eu hangen.”