Mae’r cynlluniau i gynnal arolwg o’r ffordd y caiff helfeydd eu plismona yn y gogledd wedi cael eu beirniadu fel “prosiect oferedd gwleidyddol diangen”.
Mae’r Gynghrair Cefn Gwlad wedi cyhuddo Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, o fod â “rhagfarn yn erbyn pobol yng ngefn gwlad”, ac maen nhw’n galw arno i wario arian trethdalwyr ar bethau eraill.
Daw hyn yn dilyn gwahoddiad ganddo am geisiadau tendr o hyd at £20,000 gan gontractwyr i gwblhau arolwg annibynnol o hela yn yr ardal.
Mae’r arolwg, a fydd yn ystyried y ffordd y mae Heddlu’r Gogledd yn goruchwylio’r gweithredu’r Ddeddf Hela, wedi cael ei groesawu gan ymgyrchwyr yn erbyn hela.
Daw hyn yn dilyn honiadau nad yw’r heddlu wedi dangos “unrhyw ddiddordeb” o’r blaen mewn gweithredu yn erbyn hela anghyfreithlon.
Ond mae’r rheiny sydd o blaid hela wedi cyhuddo Andy Dunbobbin o wastraffu arian ar ôl mynnu bod helfeydd yn yr ardal yn cael eu cynnal yn gyfreithlon.
‘Ergyd drom’
“Fe ddaw fel ergyd drom i drethdalwyr yng ngogledd Cymru pan fyddan nhw’n deall bod eu Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn barod i bwmpio’u harian i mewn i’r hyn na ellir ei ddisgrifio ond fel prosiect oferedd gwleidyddol diangen,” meddai Rachel Evans, cyfarwyddwr y Gynghrair Cefn Gwlad, wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.
“Mae helfeydd ledled Cymru’n cymryd rhan mewn gweithgaredd gyfreithlon, ond yn drist iawn maen nhw’n wynebu cyhuddiadau ffug gan ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid.”
Yn y gorffennol, mae Andy Dunbobbin wedi disgrifio’r gyfraith ar hela fel un sy’n “rhy wan” gan ddweud mewn neges ar Twitter nad yw’n “addas ar gyfer y pwrpas”.
Mae ei adolygiad arfaethedig o blismona hela wedi cael ei feirniadu gan Arfon Jones, ei ragflaenydd o Blaid Cymru, sy’n dweud bod y mater y tu hwnt i’w gyfrifoldebau.
“Mae o’n naïf i ymyrryd mewn mater plismona gweithredol, na ddylai o fod yn ei wneud beth bynnag,” meddai Arfon Jones.
“Pe bai o’n poeni gymaint â hynny am y ffordd y caiff helfeydd eu plismona, yna dylai o fod wedi gofyn am gymorth gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi ynghylch sut i fynd o’i gwmpas o ac a oedden nhw’n medru helpu hefo adolygiad.
“Fedrwch chi jyst ddim cael unrhyw un yn dod i mewn i wneud adolygiad o faterion plismona gweithredol oherwydd mae yna weithdrefnau plismona a chyfrinach ynghlwm wrtho fo.”
Croeso gan ymgyrchwyr
Ond mae’r arolwg wedi cael ei groesawu gan ymgyrchwyr sy’n ceisio atal helfeydd yn y gogledd ac sy’n ymgyrchu yn erbyn hela yn yr ardal.
“Am 17 o flynyddoedd ers i hela â chŵn ddod yn anghyfreithlon, mae helfeydd wedi cael parhau gan nad yw’r heddlu’n dangos diddordeb o gwbl mewn gweithredu’r gyfraith,” meddai llefarydd.
“Ond mae yna agweddau sydd eisoes yn y Ddeddf Hela rydyn ni’n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu harchwilio gan yr heddlu wrth geisio gwarchodaeth, ac un o’r rheiny yw erlyn tirfeddianwyr am awdurdodi hela anghyfreithlon ar eu tir.”
Mae Andy Dunbobbin hefyd wedi ymateb i’r feirniadaeth, gan fynnu na fydd yn ymddiheuro am geisio mynd i’r afael â throseddau yng nghefn gwlad.
“Mae teimladau cryf ac ymatebion cyferbyniol o bob ochr yn y ddadl ynghylch plismona’r Ddedd Hela yng ngogledd Cymru’n dangos yn union pam fod angen yr arolwg hwn,” meddai.
“Mae hefyd yn dangos pam fod rhaid i unrhyw arolwg gael ei gynnal heb angerdd, yn ddi-duedd ac yn rhesymegol – rhinweddau y byddai fy rhagflaenydd fel Comisiynydd Hedldu a Throsedd yn gwneud yn dda i’w dysgu.
“Bydd adolygwr annibynnol wir yn cynnig barn gwbl oddrychol, nad yw bob amser yn wir am Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.
“Ymhell o fod naill ai’n naïf ynghylch materion gweithredol neu’n ddi-hid am faterion gwledig, mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn gosod mynd i’r afael â throseddau gwledig a’u hatal, a phobol gogledd Cymru, wrth ei galon a dw i ddim yn ymddiheuro am frwydro drostyn nhw.”
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cael cais am sylw.