Mae’r pwyllgor argyfyngau DEC Cymru wedi cyhoeddi bod Apêl Ddyngarol Wcráin wedi codi £10.7m mewn llai na mis yma yng Nghymru, gyda chyfanswm y Deyrnas Unedig bellach yn £260m.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfraniad o £4m i gyd-fynd â lansiad yr apêl.

Mae o leiaf 3.8m o bobol bellach wedi ffoi o Wcráin, tra bod o leiaf 6.5m o bobol wedi’u dadleoli yn y wlad.

Mae’r apêl yn ariannu gwaith elusennau sy’n aelodau o DEC a’u partneriaid lleol, ac yn helpu pobol y tu mewn i Wcráin a ffoaduriaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro.

Digwyddiadau codi arian

Fodd bynnag, dydy’r apêl ddim ar ben, gyda digwyddiadau codi arian wedi’u trefnu ledled Cymru yr wythnos hon.

Brynhawn dydd Sul (Mawrth 27), roedd cyngerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ac roedd gêm gyfeillgar rhwng Cymru a’r Weriniaeth Tsiec yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth (Mawrth 29), gyda’r elw yn mynd i’r DEC .

Ar nos Sadwrn (Ebrill 2), mae Cyngerdd Cymru a’r Wcráin yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth – sy’n cael ei ddarlledu ar S4C – i godi arian at yr apêl.

Bydd artistiaid o Gymru a’r Wcráin yn perfformio yn y cyngerdd, gan gynnwys Yuriy Yurchuk, a ddaeth i amlygrwydd ar ôl canu anthem genedlaethol Wcráin y tu allan i 10 Downing Street ar ddechrau’r gwrthdaro.

Bydd perfformiadau hefyd gan y tenor Gwyn Hughes Jones, Dafydd Wyn Jones, Sam Ebenezer, Glain Rhys, Côr y Cwm, Côr Glanaethwy a Chôr Plascrug Ysgol Aberystwyth, ysgol leol gyda 27 o ieithoedd amrywiol sydd hefyd gyda disgyblion o Wcráin.

Yr wythnos hon hefyd, ymunodd y band roc Cymreig Manic Street Preachers â llu o sêr gan gynnwys Ed Sheeran a Camilla Cabello yng nghyngerdd ITV ar gyfer Wcráin yn y Birmingham Resort World Arena gan godi £12.2m.

‘Undod’

“Mae’r swm a godwyd yn dangos yr undod anhygoel sydd gan bobl yma yng Nghymru gyda’r sifiliaid sydd wedi cael eu dal yn yr argyfwng hwn,” meddai Melanie Simmonds, cadeirydd DEC Cymru.

“Mae’r swm a godir yma yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gan alluogi elusennau DEC i gynyddu eu gweithrediadau ac i helpu mwy o bobol.

“Rydym yn benderfynol o wneud cymaint ag y gallwn i gefnogi pobol sydd wedi cael eu bywydau wedi’u rhwygo’n ddarnau gan y gwrthdaro dinistriol hwn, heddiw ac wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau yfory.”