Mae Cyngor Cernyw wedi gwneud cais i’r Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw am ragor o bŵer datganoli.
Er mwyn derbyn pwerau ychwanegol, byddai’n rhaid i Gernyw gael maer neu arweinydd etholedig.
Byddai arweinydd o’r fath yn cael ei ethol yn uniongyrchol yn debyg i’r rhai a gafodd eu hethol drwy bleidlais mewn ardaloedd fel Llundain, Manceinion a Bryste.
Cadarnhaodd y Ceidwadwr Linda Taylor, arweinydd y Cyngor, gais yr awdurdod yr wythnos ddiwethaf.
Pe bai’r llywodraeth yn cytuno, byddai’n rhaid i’r cais gael ei gymeradwyo drwy bleidlais fwyafrifol o ddwy ran o dair o gynghorwyr, meddai Linda Taylor.
Yna, byddai etholiad yn cael ei gynnal ym mis Mai neu fis Hydref y flwyddyn nesaf, ychwanegodd.
Dywedodd Linda Taylor wrth BBC Radio Cornwall fod y Cyngor wedi gwneud cais am “ddatganoli lefel tri” – y lefel uchaf posib.
Mwy o reolaeth yn dod i Gernyw
Dywed Linda Taylor fod y cais yn ymateb i’r galw gan y llywodraeth i ganiatáu i awdurdodau lleol “godi’r gwastad”, ac y byddai’n golygu bod llawer mwy o reolaeth yn dod i Gernyw, yn hytrach na bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yn Llundain.
Mae Cernyw eisoes yn un o naw ardal yn Lloegr sydd wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn rhaglen “codi’r gwastad” y llywodraeth – strategaeth i gau’r bwlch rhwng rhannau cyfoethog a thlawd o’r wlad.
Dywed Linda Taylor y byddai mwy o ddatganoli yn caniatáu i Gyngor Cernyw fynd i’r afael ag argyfwng tai’r sir drwy wneud pethau fel codi mwy o dreth gyngor ar ail gartrefi, a sicrhau bod angen caniatâd cynllunio ar bobol sydd am roi cartrefi ar rent fel tai gwyliau.