Roedd y ddrama It’s A Sin, yr actor Callum Scott Howells a’i hawdur Russell T Davies ymhlith yr enillwyr yng ngwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol yng ngwesty’r Grosvenor House yn Llundain neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 29).

Cafodd portread Callum Scott Howells o Colin, un o’r prif gymeriadau sy’n darganfod fod ganddo AIDS yng nghanol pandemig y 1980au, ei ddisgrifio fel “perfformiad campus iawn llawn tynerwch a chynildeb” ac yn “berfformiad sy’n byw yn hir iawn yn y cof”.

Fe gurodd e Tahar Rahim (The Serpent) ac Olly Alexander (It’s A Sin).

Ac fe gafodd ei enwebu hefyd am y wobr Torri Trwodd, a aeth i Adjani Salmon (Dreaming Whilst Black).

Cipiodd y ddrama y wobr am y Gyfres Gyfyngedig Orau, wrth i’r beirniaid ddweud ei bod hi’n “stori dorcalonnus a gafodd ei hadrodd mewn ffordd afaelgar”, a’i bod hi “wedi’i hysgrifennu’n neilltuol o dda, wedi’i chynhyrchu’n wych, gyda pherfformiadau celfydd”.

Time a Stephen oedd y ddwy ddrama arall a gafodd eu henwebu.

Cafodd gwaith awdura Russell T Davies ei alw’n “ysgrifennu ar ei fwyaf pwerus” ac yn “llawn dicter, llawenydd, tristwch, hwyl a dynoliaeth”.

Richard Warlow (The Serpent) a Jack Thorne (Help) oedd y ddau awdur arall a gafodd eu henwebu.

Cipiodd The Great House Giveaway gan gwmni Chwarel y wobr am y Rhaglen Ddydd Orau, ac fe wnaeth y criw ddiolch yn Gymraeg am y wobr.

Gwobrau teledu BAFTA

Mae It’s A Sin hefyd wedi derbyn 11 enwebiad ar gyfer gwobrau teledu BAFTA eleni.

Mae’r ddrama wedi’i henwebu ar gyfer y gyfres fach orau, ac mae’r actorion Olly Alexander (Actor Gorau), Lydia West (Actores Orau), ac Omari Douglas, Callum Scott Howells a David Carlyle (Actor Cynorthwyol Gorau) hefyd wedi cael eu henwebu.

Mae Russell T Davies wedi’i enwebu ar gyfer yr Awdur Gorau, a’r eiliad yn y gyfres pan gaiff Colin wybod fod ganddo AIDS wedi’i henwebu ar gyfer yr eiliad y mae’n rhaid ei gwylio.

 

Cyn-nyrs o Gymru yn serennu yn nrama fawr 2021

Alun Rhys Chivers

Bu ‘It’s A Sin’ yn un o ddramâu mwya’ poblogaidd Channel 4 erioed, gyda thair miliwn a hanner yn gwylio’r bennod gyntaf