Bar Williams Parry yw enw bar newydd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Y bardd Gruffudd Antur o Lanuwchllyn awgrymodd yr enw, sy’n chwarae ar eiriau ac yn gyfeiriad at y prifardd o Ddyffryn Nantlle, R. Williams Parry.
Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru fore heddiw (dydd Mercher, Mawrth 30), gan guro awgrymiadau eraill megis Maes Yfed, Prif Far a Bar Gen.
Bythefnos yn ôl, fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol alw ar bobol i wneud awgrymiadau am enw bachog ar gyfer y bar newydd, a daeth 402 o awgrymiadau i law.
Ar ôl blynyddoedd o wasanaethu’r Maes, mae’r Bar Gwyrdd a’r Bar Guinness yn ymddeol eleni, a bydd y bar newydd sbon – Bar Williams Parry – yn ymddangos ar faes Eisteddfod Ceredigion.
Bydd yr enw’n cael ei ddefnyddio am flynyddoedd o Eisteddfod i Eisteddfod, ac roedd angen osgoi bod yn rhy blwyfol neu’n rhy dafodieithol wrth awgrymu syniad.
“Mi ddaeth y syniadau, 402 ohonyn nhw, a dw i’n edrych ar rai ohonyn nhw rŵan, Barddoni, Martha, Jac a Tanco, Baradwys, y Barchdderwydd, Bargwyddoldeb, Bar Ni, Bar Bawb, Bardderchog…” meddai Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
“Mae yna chwynnu wedi bod. Does yna ddim gwobr ond y clod a’r bri.
“Enw’r bar yn yr Eisteddfod Genedlaethol o hyn ymlaen fydd Bar Williams Parry.
“Gruffudd Antur gafodd yr enw draw yn Llanuwchllyn, y clod a’r bri iddo fo.”
Peint i @GruffuddAntur ? https://t.co/l8vgjWme4b pic.twitter.com/KAj2Y1HHCe
— Aled Hughes ??????? (@boimoel) March 30, 2022
‘Clod ac anrhydedd’
“Mor falch o glywed Gruffudd Antur yn disgrifio’r clod ac anrhydedd o feddwl am enw buddugol ein bar newydd fel ‘uchafbwynt ei fywyd’…” meddai’r Eisteddfod Genedlaethol ar Twitter.
“Edrych ymlaen at ei longyfarch yn iawn yn ein bar newydd #barwilliamsparry ym mis Awst!”