Mae S4C wedi’u henwebu ar gyfer 16 o wobrau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Quimper yn Llydaw yw’r lleoliad ar gyfer yr ŵyl, fydd yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 7-9 ac sy’n hyrwyddo’r diwylliannau a’r ieithoedd Celtaidd drwy deledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol.

Llwyddodd S4C i ennill dau enwebiad yn y categori plant gyda rhaglen arbennig Calan Gaeaf Deian a Loli a Drygwyl y Meirw (Cwmni Da) a Mabinogiogi: Clustiau’r March (Boom Cymru).

Daeth dau enwebiad hefyd yn y categori materion cyfoes gyda rhaglen iasol Llofruddiaeth Mike O’Leary (ITV Cymru) a Prif Weinidog mewn Pandemig (Zwwm Films).

Llwyddodd cyfres gomedi Rybish (Cwmni Da) i ennill enwebiad yn y categori Comedi ynghyd â Curadur: Lemfreck (Orchard) yn y categori Cerddoriaeth Fyw.

Cyrhaeddodd y gyfres boblogaidd Bwyd Epic Chris (Cwmni Da) y rhestr fer yn y categori adloniant Ffeithiol a John Owen: Cadw Cyfrinach (Wildflame) yn y categori Dogfen Nodwedd.

Cyrhaeddodd dwy o raglenni cyfres ffeithiol S4C DRYCH y rhestr fer hefyd yn y categori Dogfen Unigol sef DRYCH: Byw heb freichiau (Zwwm Films) a DRYCH: Chwaer Fach Chwaer Fawr (Dogma).

Daeth llwyddiant hefyd i ddramâu S4C, gydag Yr Amgueddfa gan Fflur Dafydd (Boom Cymru) yn cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Cyfres Ddrama, Grav (Regan Developments) yn y categori Drama Unigol a Hen Wragedd a Ffyn (It’s My Shout) yn y categori Drama Fer.

Llwyddodd Terfysg yn y Bae (Tinopolis) i gyrraedd y rhestr fer yn y categori Hanes, a Stori Jimmy Murphy (Docshed) yn y categori Dogfen Chwaraeon, gyda Blwyddyn Covid: Lleisiau Cymru (Kailash Films) yn cael enwebiad yng ngwobr fawr yr ŵyl, sef Ysbryd yr Ŵyl.

‘Amrywiaeth a safon’

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau’r ŵyl eleni,” meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C.

“Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws ein amserlen.

“Pob lwc i bawb fis Mehefin.”

Mae modd gweld yr enwebiadau’n llawn yma.