Mae’r comisiwn sydd wedi’i sefydlu i edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi cyhoeddi’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn am y ffordd mae Cymru’n cael ei llywodraethu ar hyn o bryd.

Corff annibynnol yw’r comisiwn, a rhan o’u tasg yw edrych ar sut y gallai’r wlad gael ei llywodraethu’n wahanol o fewn y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag opsiynau eraill ynghylch sut i gryfhau democratiaeth yn o fewn y Deyrnas Unedig a thu allan iddi.

Bydd y comisiwn yn edrych ar bwy sy’n gyfrifol am beth, ac yn ystyried ai dyma’r ffordd orau ymlaen o ran sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut maen nhw’n effeithio ar bobol.

Yn rhan o hynny, byddan nhw hefyd yn ystyried pa agweddau ar fywyd ddylai gael eu penderfynu yma yng Nghymru yn hytrach nag ar lefel y Deyrnas Unedig.

Mae’r Comisiwn yn dweud eu bod nhw eisiau clywed gan gynifer o bobol â phosib, ac o gynifer o wahanol lefydd â phosib, am ddyfodol Cymru.

Sgwrs genedlaethol a chwestiynau

Y gwahoddiad hwn yw rhan gynta’r sgwrs genedlaethol, meddai’r Comisiwn, wrth iddyn nhw amlinellu nifer o gwestiynau i’w hateb ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Maen nhw hefyd yn gwahodd pobol i wneud sylwadau am faterion sydd heb eu cynnwys yn y cwestiynau, a bydd y cyfan yn cael ei gynnwys mewn adroddiad yn niwedd 2023.

Y cwestiynau:

  1. Beth sy’n bwysig i chi o ran sut y caiff Cymru ei rhedeg?
  2. Yn eich barn chi, beth ddylai blaenoriaethau y Comisiwn fod?
  3. Wrth ystyried sut y caiff Cymru ei llywodraethu, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, beth yw cryfderau’r drefn bresennol, pa agweddau sy’n fwyaf gwerthfawr i chi ac yr hoffech eu hamddiffyn? A allwch roi enghreifftiau?
  4. A oes unrhyw broblemau gyda’r drefn bresennol? Os oes, sut y gellid mynd i’r afael â nhw? Rhowch enghreifftiau os gwelwch yn dda.
  5. Wrth ystyried Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru (eich cyngor lleol), beth yw eich barn ynglŷn â’r cydbwysedd pŵer a chyfrifoldeb rhwng y tri math o lywodraeth – a yw’n iawn ar y cyfan, neu a ddylai newid, ac os felly, sut? Er enghaifft, pwy ddylai gael mwy o bŵer, neu lai?
  6. Fel gwlad ac uned wleidyddol benodol, sut ddylai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol? A ddylem:
  • cadw’r trefniadau presennol yn fras, lle caiff Cymru ei llywodraethu fel rhan o’r DU, â Senedd San Steffan yn dirprwyo rhai cyfrifoldebau i’r Senedd a Llywodraeth Cymru, â’r cyfrifoldebau hynny wedi’u haddasu fel yn cwestiwn 5, neu
  • symud tuag at fwy o ymreolaeth i Gymru benderfynu drosti hi ei hun o fewn Deyrnas Unedig mwy ffederal, gyda’r mwyafrif o faterion i’w penderfynu gan Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a Senedd San Steffan yn gwneud penderfyniadau ar faterion ledled y DU ar ran Cymru (a gweddill y DU)? neu
  • symud tuag at ymreolaeth lawn i Gymru lywodraethu ei hun yn annibynnol o’r DU? neu
  • mynd ar drywydd unrhyw fodel llywodraethu arall yr hoffech ei gynnig?
  • ochr yn ochr ag unrhyw un o’r opsiynau hyn, a ddylai cynghorau lleol gael mwy o bwerau a thrwy hynny ddod â’r broses o wneud penderfyniadau yn nes at bobl Cymru os felly rhowch enghreifftiau os gwelwch yn dda.

7. Drwyddi draw, beth sy’n fwyaf pwysig i chi am sut y dylid llywodraethu Cymru yn y dyfodol?  A oes unrhyw beth arall yr hoffech ddweud wrthym?

Mae’r Comisiwn yn croesawu ymatebion tan haf 2023, ond bydd adroddiad interim yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y flwyddyn hon ac felly maen nhw’n awyddus i gael ymatebion yn y lle cyntaf erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni, a dylid eu hanfon at ConstitutionCommission@gov.wales.

Mae modd ymateb yn ysgrifenedig, neu ar ffurf fideo neu sain a dylid nodi ai fel unigolyn neu sefydliad rydych yn ymateb. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylid nodi ei bwrpas, ei faint a’i aelodaeth.

Cefndir

Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru, bwriad y Comisiwn yw “datblygu opsiynau ar gyfer diwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru’n rhan annatod ohoni.”

Bydd hefyd yn ystyried opsiynau i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru, sydd wedi bod mewn trafodaethau parhaus â Llywodraeth Cymru, yn credu bod sefydlu’r Comisiwn yn gyfle i ddadlau dros annibyniaeth.

Mae’r Athro Laura McAllister yn gyn bêl-droedwraig rhyngwladol, a bellach yn academydd profiadol mewn gwleidyddiaeth ac mae hi’n un o ddau gadeirydd y Comisiwn, ynghyd â Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Cymru.

Gallwch ddarllen portread ohoni o gylchgrawn Golwg 13 Mai yma.

“Mae angen cyfraniadau o ddifrif i’n dadl gyfansoddiadol ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein gwaith yn cyfrannu at lenwi’r gofod hwnnw,” meddai.

“Byddwn yn meddwl yn fras ac yn radical am yr holl opsiynau posib ar gyfer dyfodol Cymru, yng nghyd-destun y pwysau cynyddol ar yr Undeb.”

Mae Dr Rowan Williams yn fwyaf adnabyddus am ei gyfnod fel Archesgob Caergaint rhwng 2002 a 2012.

“Gwaith y Comisiwn hwn yw gofyn pa strwythurau a darpariaethau cyfansoddiadol fydd yn rhyddhau potensial cymunedau Cymru a phobl Cymru orau,” meddai.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod llywodraethu Cymru yn effeithiol, yn atebol ac yn ddychmygus, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed pa obeithion a gweledigaethau sy’n ysbrydoli pobl ledled y wlad.”

Ymateb Plaid Cymru

Dywed Rhys ab Owen, llefarydd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad a Chyfiawnder, y bydd ei blaid yn manteisio ar y Comisiwn i drafod annibyniaeth.

“Mae Comisiwn Cyfansoddiadol yn gyfle i gynnal y sgwrs genedlaethol fwyaf eang am ddyfodol Cymru yn hanes datganoli,” meddai.

“Rydym yn croesawu’r Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams i’w rolau ac yn dymuno’n dda iddynt yn fel Cyd-gadeiryddion. 

“Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol gyda’r Comisiwn a’i waith, gan ddefnyddio pob cyfle y mae’n ei gyflwyno i ddadlau dros annibyniaeth ac y bydd buddiannau ein cenedl yn cael eu gwasanaethu orau pan fydd penderfyniadau dros ddyfodol Cymru yn cael eu rhoi yn nwylo Cymru.”

 

Comisiwn newydd i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru

Yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams i arwain ar y Comisiwn a fydd yn hybu “sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru”.