O bêl-droed i bolitics, mae Laura McAllister yn adnabyddus am gyfrannu at sawl maes gwahanol.
Mae’n sylwebu’n gyson ar wleidyddiaeth Cymru, a hithau yn Athro Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Hefyd mae hi’n un o hoelion wyth y byd pêl-droed yng Nghymru.
Hi yw Cyfarwyddwr bwrdd ‘Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru’, ac mae’n Ddirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA, y corff sy’n rheoli pêl-droed Ewropeaidd.
Bu yn chwarae i dîm pêl-droed menywod Cymru yn y 1990au, gan gapteinio ar sawl achlysur.
Yn ddiweddar mi roddodd gynnig aflwyddiannus ar fod yn gynrychiolydd UEFA ar Gyngor FIFA (y corff rheoli pêl-droed byd-eang) – gan ddenu cryn sylw yn y Wasg.
Yn hanu o Ben-y-bont ar Ogwr, mae ganddi gysylltiadau teuluol â’r Cymoedd, a thrwy’r cyswllt yma y taniwyd ei hangerdd am wleidyddiaeth.
“Roedd fy nhad-cu yn löwr yng Nghwm Llynfi ym Maesteg,” meddai. “Ac roedd e’n gweithio’n galed gyda’r undeb – yr NUM (National Union of Mineworkers). Ac roedd e’n aelod o’r Blaid Lafur.
“Dw i ddim yn cofio lot, wrth gwrs. Dim ond merch fach oeddwn i ar y pryd. Ond dw i’n cofio mynd i gyfarfodydd [NUM yn neuadd y dref ym Maesteg] gyda gwleidyddion enwog.
“Doeddwn i ddim rili yn gwybod pwy oedden nhw … ond s’dim ots rili pwy oedden nhw. Dw i jest yn cofio’r awyrgylch a’r mood yn yr ystafell.
“Pobol oedd ag angerdd mawr am ddyfodol y cwm a dyfodol y diwylliant ac yn y blaen. Roedd jest rhyw fath o sens o bŵer y bobol. A llais y bobol hefyd.”
Mae’n tynnu sylw at yr “awyrgylch o wleidyddiaeth” a oedd ar yr aelwyd lle y magwyd hi, ac mae’n sôn am ddylanwad cynnar.
“Roedd fy mam yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd pobol yn ymwneud â byd gwleidyddiaeth,” meddai. “Social worker oedd fy mam.
“Roedd hi’n gweithio’n galed yn y gymuned ac roedd hi’n dweud i ni – fi, fy mrawd a fy chwaer – ei bod yn reit bwysig gwneud pethau yn y gymuned.
“A chymryd rhyw fath o gyfrifoldeb dros bethau sy’n mynd ymlaen yn y gymuned o’ch cwmpas.
“Felly nid gwleidyddiaeth ffurfiol, a dweud y gwir, ond gwleidyddiaeth gymunedol, a gwleidyddiaeth sy’n cael effaith ar fywyd day to day pobol gyffredin.”
Agwedd ar fywyd Laura McAllister sydd yn llai cyfarwydd i lawer yw’r ffaith ei bod wedi bod ynghlwm â gwleidyddiaeth bleidiol ar un adeg.
Mi ymunodd â Phlaid Cymru yn 15 oed, a sefyll tros y Blaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn etholiad cyffredinol 1987, ac eto yno yn etholiad cyffredinol 1992.
Does ganddi ddim bwriad rhoi cynnig arall ar yrfa wleidyddol, fodd bynnag.
“Y peth pwysig i fi yw sylwebu, ac astudio, ac ymchwilio i wleidyddiaeth,” meddai. “A dyna dw i’n rili dwlu arno fe.
“Dw i’n dwlu ar yr ymchwil, a dw i’n dwlu ar yr analysis, a jest cael y cyfle i eistedd yn ôl a gweld beth mae’r pleidiau i gyd yn ddweud.
“A dweud y gwir, dw i ddim yn ddigon agos at unrhyw blaid i fod yn ymgeisydd i unrhyw un yn awr. Na, ddim o gwbl. Yr unig etholiad dw i eisiau sefyll mewn eto yw un i FIFA neu UEFA!”
Ddiwedd mis Ebrill daeth i’r amlwg bod Evelina Christillin wedi cipio rôl y Cynrychiolydd Menywod ar Gyngor FIFA, gan guro Laura McAllister.
Dyma oedd ail ymgais y Gymraes i ddod yn rhan o waith FIFA.
Er iddi fethu â chael ei hethol y tro hwn, mae’n browd o’r ffaith ei bod wedi derbyn 40% o’r bleidlais (22 o 55 o’r aelodau) – rhywbeth sy’n “unheard of ym myd pêl-droed”, meddai.
“Wnes i ddysgu lot fawr ynglŷn â’r etholiadau pêl-droed ac etholiadau chwaraeon,” meddai. “Ac a dweud y gwir doedd neb yn disgwyl i ni gael gymaint o bleidleisiau fel wnaethon ni.”
Mewn darn diweddar i WalesOnline wnaeth Laura McAllister ddweud bod “byd gwleidyddiaeth pêl-droed yn llawer fwy anrhyloyw a brwnt” na gwleidyddiaeth arferol.
Roedd ei thafod yn ei boch pan sgwennodd hynny, ond oes rhywfaint o wirionedd i’r cyfan?
“Oes, yn sicr,” meddai.
“Mae’r pethau mwyaf pwysig yn digwydd tu ôl the scenes,” meddai, gan gyfeirio yn benodol at y modd mae FIFA yn cynnal etholiadau.
“Mae yna lot o fargeinio, a lot o deals yn mynd ymlaen.
“Ac felly mae’n anodd iawn cael unrhyw fath o fynediad at y byd yna heb wybod yn sicr beth yw’r wleidyddiaeth, a beth yw’r deals sy’n mynd ymlaen.”
Cyn iddi ymuno ag unrhyw fwrdd neu gymdeithas, roedd Laura McAllister yn gwneud enw i’w hun ar gaeau pêl-droed ledled Prydain.
Bu yn chwarae i’r Millwall Lionesses tra’r oedd hi’n astudio yn y London School of Economics, ac ar ôl dychwelyd i Gymru mi dreuliodd 12 mlynedd yn chwarae i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Rhwng 1994 ac 1998 bu’n chwarae i Gymru, gan gapteinio ar ambell achlysur, ac ennill 24 o gapiau i gyd.
Bryd hynny roedd pêl-droed i fenywod “tamaid bach yn invisible”, meddai, ac mae’n falch bod pethau wedi datblygu dros y degawdau diwethaf.
“Mae’n od ei ddisgrifio fe nawr, achos mae pêl-droed merched a phêl-droed i fenywod wedi datblygu gymaint ers y nawdegau a’r noughties ac yn y blaen,” meddai.
“Ac mae’n edrych fel byd eitha’ gwahanol. Wrth gwrs dw i’n falch iawn i weld y progress ry’n ni wedi ei wneud gyda phêl-droed menywod. Ond mae yna lot mwy i’w wneud hefyd.”
Mae’n pryderu nad oes yna ddigon o glybiau y gall merched ymuno â nhw, ac mae’n dweud ei bod yn “bechod mawr” bod “dim strwythur i’r gêm mewn rhai ardaloedd yng Nghymru”.