Covid yn hytrach nag annibyniaeth oedd yn flaengar ym meddyliau’r mwyafrif o bobol Cymru wrth fwrw eu pleidlais yn etholiadau’r Senedd ar Fai 6, yn ôl Laura McAllister sy’n Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Wrth gwrs mae Plaid Cymru eisio rhoi annibyniaeth ynghanol eu hymgyrch” meddai wrth gylchgrawn Golwg ddechrau’r wythnos.