Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru o dan “bwysau eithriadol”.

Dywed fod “heriau sylweddol” wedi rhoi’r sector dan straen, gyda’r cynnydd mewn achosion Covid-19 yn arwain at salwch staff, capasiti gwelyau cyfyngedig, cyfyngu ar gapasiti ambiwlansys ac anawsterau wrth ryddhau cleifion.

Roedd cyfartaledd o 939 o gleifion yn yr ysbyty gyda Covid wedi’i gadarnhau ar Fawrth 29, sy’n gynnydd o 17% ers yr wythnos ddiwethaf.

Ond mae nifer sylweddol o’r cleifion hyn (84.5%) yn cael eu trin yn bennaf ar gyfer cyflyrau eraill ac yn digwydd bod wedi profi’n bositif wrth gael eu derbyn.

Mae mesurau eisoes wedi’u cymryd ar draws pob bwrdd iechyd i geisio lleddfu’r pwysau, yn ôl Eluned Morgan.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae pob gweithdrefn nad yw’n hanfodol wedi’i chanslo, ac mae’r uwch-weithwyr clinigol ac anghlinigol yn ailflaenoriaethu eu llwyth gwaith yn unol â hynny er mwyn rheoli’r sefyllfa ar draws ardal Gwent.

‘Pwysau eithriadol’

“Mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru o dan bwysau eithriadol ar hyn o bryd ac fe fydden ni’n annog unrhyw un sydd angen gofal i sicrhau eu bod yn cael y gofal cywir yn y lle cywir, boed hynny drwy ‘ein helpu ni i’ch helpu chi’ a defnyddio gwefan GIG 111 Cymru, neu drwy ofal brys neu ofal argyfwng,” meddai Eluned Morgan mewn datganiad.

“Rydyn ni wedi bod yn agored am yr heriau sy’n wynebu Gwasanaeth Iechyd Cymru, ac adrannau 999 ac Adrannau Achosion Brys yn benodol.

“Nid yw hon yn sefyllfa unigryw i Gymru; mae gwasanaethau iechyd ledled y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau tebyg.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu’n ddiogel ac yn effeithiol a dylai unrhyw un sydd wir angen triniaeth ysbyty ar frys a’r rhai sydd â ’salwch sy’n bygwth bywyd neu anaf difrifol’ fynd o hyd i’r adran achosion brys.

“Gall y rhai nad oes angen gofal ar gymaint o frys arnynt, neu’r rhai a allai gael y driniaeth angenrheidiol mewn lleoliad arall, helpu i leihau’r pwysau drwy ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion.

“Gall y cyhoedd fod o gymorth hefyd drwy helpu’r broses o ryddhau aelodau o’u teuluoedd o’r ysbyty yn amserol pan fyddan nhw’n barod i adael.

“Os oes perthynas i chi neu un o’ch anwyliaid yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond mae’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi ei helpu i fynd adref yn gynt os gallwch chi a’ch teulu ei gefnogi gartref.”

Prinder staff 

Mae yna “brinder wedi bod yn nifer y staff yn y Gwasanaeth Iechyd ers tipyn”, yn ôl Dr Phil White o gymdeithas feddygol BMA Cymru.

“Mae nifer yr achosion Covid wedi cynyddu ac mae hwn hefyd yn effeithio staff ysbytai sy’n gorfod aros draw os ydyn nhw’n datblygu’r salwch,” meddai wrth siarad ar raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.

“Ar ben hynny, mae yna brinder wedi bod yn nifer y staff yn y Gwasanaeth Iechyd ers tipyn, ac rydan ni’n gweld hi’n anodd cael meddygon i ddod i weithio yng Nghymru.”

Aeth yn ei flaen i rybuddio am y cynnydd yn nifer y cleifion sydd â chlefydau eraill oedd ddim mor amlwg ystod y pandemig gan fod pobol yn hunanynysu.

“Welon ni fawr ddim o ffliw, welon ni fawr ddim o RSV mewn plant dros y ddwy flynedd diwethaf oherwydd y rheolau ar gyfer Covid,” meddai.

“Ac wedyn, mae’n rhaid i chi gofio o fewn ysbytai, mae rheolau Covid yn bod o hyd.

“Felly mae’n bwysig iawn cadw popeth yn lân ac felly mae hynny yn arafu pa mor sydyn y medrwch chi weld cleifion.”