Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi cytundeb dwy flynedd gyda’r cwmni bragu Glamorgan Brewing Company i gyflenwi bariau Gerddi Sophia gyda chwrw o Gymru.

Daw’r cyhoeddiad drannoeth y cyhoeddiad mai cwmni seidr o Wlad yr Haf, Thatchers, yw noddwyr newydd pafiliwn Gerddi Sophia a phartneriaid seidr y sir.

Bydd gan y cwmni bragu teuluol hawliau ecsgliwsif fel partneriaid cwrw casgen y clwb, a byddan nhw’n darparu’r cwrw ar gyfer digwyddiadau criced a gweithgareddau eraill y stadiwm.

Ymhlith y cwrw fydd ar gael mae Jemima’s Pitchfork, Welsh Pale Ale a Chwrw Gorslas ac maen nhw’n tynnu ar hanes lleol gwahanol ardaloedd wrth fragu.

Ymateb y cwmni

“Mae hwn yn gweddu’n berffaith i ni, wrth i ni edrych ymlaen at yr hyn a fydd, gobeithio, yn fan cychwyn cysylltiad hir â Chlwb Criced Morgannwg,” meddai Chris Lloyd, Pennaeth Gwerthiant Glamorgan Brewing Company.

“Pob lwc ar gyfer y tymor i ddod, ac rydym yn gobeithio’n fawr y bydd cefnogwyr yn mwynhau gwylio Morgannwg gyda chwrw Cwmni Bragu Morgannwg yn eu dwylo ar ddiwrnodau’r gemau.”

Mae Clwb Criced Morgannwg yn dweud eu bod nhw wrth eu bodd gyda’r bartneriaeth newydd.

“Maen nhw’n gwmni rydyn ni’n cyd-fynd yn agos â nhw, nid yn unig o ran yr enw ond hefyd o ran gwerthoedd eu gwaith yn y gymuned leol a’u dyhead i gydweithio â busnesau Cymreig.

“Rydym bob amser yn ceisio datblygu’r profiad i’n haelodau a’n cefnogwyr ar ddiwrnod gemau a gyda’r cytundeb newydd hwn, yn ogystal â’r cyhoeddiad diweddar am seidr Thatchers, rydym yn dod ag amrywiaeth eang o ddiodydd y gall ymwelwyr eu mwynhau.”

Pafiliwn Clwb Criced Morgannwg

Cwmni seidr Thatchers o Loegr yw noddwyr newydd pafiliwn criced Morgannwg

Mae sawl un ar y cyfryngau cymdeithasol wedi tynnu sylw at y cwmnïau seidr niferus sydd yng Nghymru