Mae Gareth Kear, prif weithredwr Rygbi’r Gynghrair yng Nghymru, wedi camu o’r neilltu ar ôl tair blynedd yn y swydd.
Daw ei ymadawiad ar drothwy Cwpan y Byd, a gafodd ei ohirio y llynedd oherwydd Covid-19, lle bydd Cymru’n herio Tonga, Ynysoedd Cook a Papua Guinea Newydd.
Yn ôl Gareth Kear, “dyma’r amser cywir i symud ymlaen”.
“Dw i’n dal yn angerddol am ein camp, a hoffwn ddiolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr arbennig yn WRL am eu gwaith caled eithriadol, eu hymroddiad a’u cefnogaeth.
“Hebddoch chi, fyddai dim byd yn gallu cael ei gyflawni.”
Mae Rygbi’r Gynghrair yng Nghymru wedi diolch iddo mewn datganiad “am ei gyfraniad i’r sefydliad yn ystod ei gyfnod yn brif weithredwr”.
“Mae Gareth yn ddilynwr angerddol o rygbi’r gynghrair a does dim amheuaeth y bydd yn gefnogwr brwd o’n timau cenedlaethol yn rowndiau terfynol Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd yn Lloegr,” meddai wedyn.