Mae Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, wedi cyhoeddi’r garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yr wythnos nesaf.
Byddan nhw’n herio Ffrainc ym Mharc y Scarlets ar Ebrill 8, cyn teithio i Nur-Sultan i herio Kazakhstan bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Mae Josie Green wedi gwella o anaf oedd wedi ei chadw hi allan o Gwpan Pinatar ym mis Chwefror, ond mae Esther Morgan a Hannah Cain allan o hyd.
Yn dilyn carreg filltir Wayne Hennessey i dîm y dynion yr wythnos hon, mae disgwyl i Helen Ward (99) a Tash Harding (98) ennill eu canfed cap dros eu gwlad yn ystod y gemau hyn.
A bydd Cymru’n ceisio adeiladu ar eu momentwm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r gemau yn yr ail safle yn y tabl, gan lygadu gêm ail gyfle gyda phedair gêm o’r ymgyrch yn weddill.
Maen nhw wedi ennill pedair gêm a cholli un, ac wedi cael un gêm gyfartal, gan sgorio 17 gôl ac ildio dim ond tair.
Y garfan
Laura O’Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Coventry), Poppy Soper (Plymouth Argyle, ar fenthyg o Chelsea), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Josie Green (Spurs), Hayley Ladd (Manchester United), Gemma Evans (Reading), Rachel Rowe (Reading), Lily Woodham (Reading), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Charlton Athletic), Angharad James (Orlando Pride), Chloe Williams (Manchester United), Charlie Estcourt (Coventry), Jess Fishlock (OL Reign), Carrie Jones (Manchester United), Ffion Morgan (Bristol City), Megan Wynne (Charlton Athletic), Elise Hughes (Charlton Athletic), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Helen Ward (Watford), Natasha Harding (Reading), Ceri Holland (Lerpwl), Chloe Bull (Bristol City), Georgia Walters (Sheffield United), Morgan Rogers (Watford, ar fenthyg o Spurs).