Bydd Gerwyn Price yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair Dartiau yn Birmingham heno (nos Iau, Mawrth 31), er ei fod e wedi torri asgwrn yn ei law.

Cafodd y Cymro o Markham yn sir Caerffili anaf i’w law dde, y llaw mae’n ei defnyddio i daflu, yn gynharach y mis hwn yn dilyn Pencampwriaeth Agored y Deyrnas Unedig.

Ar ôl hepgor y noson yn Brighton, mae e wedi dychwelyd i chwarae ers hynny.

Cyrhaeddodd e’r rownd gyn-derfynol ar noson yr Uwch Gynghrair yn Nottingham bythefnos yn ôl, ac fe enillodd e gymal o Bencampwriaeth y Chwaraewyr yn yr Almaen dros y penwythnos.

Mae disgwyl iddo fe wisgo cyfarpar i amddiffyn ei law tra ei fod yn gwella o’r anaf, ond fydd e ddim yn ei wisgo i chwarae yn erbyn Joe Cullen yn rownd yr wyth olaf heno.

‘Dal yn anghyfforddus’

“Ro’n i’n dal yn anghyfforddus gyda fy llaw, felly es i’n ôl i’r ysbyty ac fe wnaeth pelydr-X ddangos bod asgwrn wedi torri ychydig bach,” meddai.

“Y drefn arferol fyddai cael fy rhoi mewn plaster am bedair wythnos, ond gyda’r Uwch Gynghrair a digwyddiadau eraill, dyw hynny ddim yn rywbeth roeddwn i ei eisiau.

“Bydda i’n gwisgo’r splint nawr heblaw am pan dw i’n chwarae dartiau, ac yn sicrhau fy mod i’n gorffwys y llaw ddigon pan dw i ddim [yn chwarae] i’w galluogi i wella’n iawn.

“Dw i wedi dangos fy mod i’n gallu chwarae dartiau’n dda er gwaetha’r anaf, a bydda i’n trio fy ngorau glas i gael y fuddugoliaeth yn Birmingham.”

Bydd Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, yn herio Michael Smith yn rownd yr wyth olaf heno.

Gohirio gornest baffio

Mae’r anaf yn golygu na fydd e’n gallu bwrw ymlaen â’r ornest baffio oedd wedi cael ei threfnu ar Ebrill 9.

Mae disgwyl iddi gael ei chynnal ar Fai 13.

Bydd e’n ymladd yn erbyn Rhys Evans fel rhan o noson i godi arian at elusennau a gwasanaethau canser yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.