Mae Clwb Rygbi Llanelli’n dathlu ei ben-blwydd yn 150 oed heddiw (dydd Mercher, Mawrth 30).
Cafodd y clwb ei sefydlu ar y diwrnod hwn yn 1872 gan y diwydiannwr John D Rogers, a ddysgodd chwarae’r gêm yn Ysgol Rugby, sef man geni’r gamp.
Cafodd e gymorth Mr C Hilton, Ysgrifennydd Anrhydeddus cynta’r clwb, wrth iddyn nhw fynd ati i ddod o hyd i ddigon o chwaraewyr.
Ond oherwydd prinder clybiau eraill yn yr ardal ar y pryd, ac anawsterau teithio’n bell, bu’n rhaid aros tan 1875-76 i ddod o hyd i wrthwynebydd – a gelyn pennaf, efallai – pan gafodd Abertawe ei sefydlu.
Llanelli a Chastell-nedd, a gafodd ei sefydlu flwyddyn ynghynt, oedd yr unig ddau glwb ar y pryd.
Gwreiddiau’r clwb
Mae crysau coch – neu sgarlad – Llanelli yn adnabyddus ar draws y byd erbyn hyn, ond glas oedd lliw’r crysau’n wreiddiol.
Wnaethon nhw ddim chwarae mewn coch tan 1883-84, ond coch a brown oedd y lliwiau erbyn hynny, ond newidion nhw eto i goch i gyd ar Ebrill 14, 1884 wrth iddyn nhw herio tîm ceendlaethol Iwerddon.
Chwaraeon nhw eu gêm gyntaf yn erbyn Clwb Cambria, Abertawe ar Ionawr 1, 1876 ar ôl bod yn ymarfer ar Barc y Bobol yn y dref.
Daeth eu gêm swyddogol gyntaf, serch hynny, yn erbyn Castell-nedd yn y Gwpan Her ar Dachwedd 29, 1879.
Mae 176 o chwaraewyr rhyngwladol wedi gwisgo’r crys coch ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys 167 o chwaraewyr Cymru, un o’r Alban, dau o Iwerddon, un o Groatia, dau o’r Unol Daleithiau, dau o ynys Tonga, ac un o Ganada.
Harry Bowen ac Alfred Cattell oedd y chwaraewyr cyntaf o’r clwb i chwarae dros Gymru, a hynny yn erbyn Lloegr yn 1882.
Mae Llanelli wedi chwarae yn erbyn timau a gwledydd mwya’r byd, a does dim amheuaeth mai eu hawr fawr oedd y fuddugoliaeth o 9-3 dros Seland Newydd ar Barc y Strade ar Hydref 31, 1972.
Mae 18 o’u chwaraewyr wedi bod yn gapten ar Gymru.
Ymhlith y chwaraewyr amlycaf i sgorio dros 100 o geisiau i’r clwb mae Andy Hill, Ieuan Evans a Ray Gravell.