Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi canmol ei ymosodwyr yn dilyn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 29).

Mae Cymru wedi ymestyn eu rhediad di-guro ar eu tomen eu hunain i 18 gêm, ac roedd yr ornest yn gyfle i rai o’r chwaraewyr ifainc yn absenoldeb y chwaraewyr mwyaf profiadol ym mlaen y cae.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy’r capten Tomas Soucek ar ôl 32 munud, ond creodd Brennan Johnson gôl i Rubin Colwill o fewn dwy funud, a chafodd Cymru gyfle i’w hennill hi wrth i Will Vaulks daro’r postyn ddwywaith, gyda Gareth Bale hefyd yn ergydio at y golwr.

Dechreuodd Brennan Johnson, a sgoriodd Rubin Colwill ei gôl gyntaf dros ei wlad, gyda Rabbi Matondo hefyd yn creu argraff wrth chwarae am y tro cyntaf ers blwyddyn.

Roedd Cymru heb Aaron Ramsey a Daniel James, a daeth Gareth Bale i’r cae yn eilydd ym munudau ola’r gêm.

“Fe wnaethon ni ei defnyddio hi fel ymarfer i edrych ar rai o’r chwaraewyr iau,” meddai Rob Page ar ddiwedd y gêm.

“Pan fo gennych chi dri felly yn y blaen, rydych chi’n gwybod eich bod chi am fod yn fygythiad ac achosi problemau.

“Mae Rubin yn ddeallus yn rhif 10, mae Brennan yn perfformio’n wych yn y Bencampwriaeth, ac mae Rabbi yn chwarae’n dda dramor [yng Ngwlad Belg], yn creu cyfleoedd ac yn sgorio goliau.

“Doedd dim angen fy argyhoeddi o ran Brennan, mae e’n ostyngedig a ddim yn rhedeg i ffwrdd gyda’r hyn mae e wedi’i wneud.

“Mae sbarc ynddo fe, felly hefyd Rubin oedd wedi cymryd y gôl yn dda iawn, ac roedd Rabbi hefyd yn fygythiad gyda’i gyflymdra.

“Roedd yna berfformiadau mawr allan yno.

“Dywedais i cyn y gêm fod yna gyfle i’r chwaraewyr.

“Mae gyda ni fis enfawr ym mis Mehefin gyda rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd a phedair gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd, felly bydd angen carfan fawr arnom ni.”

Wayne Hennessey a’i ganfed cap

Wayne Hennessey bellach yw’r trydydd Cymro i ennill 100 o gapiau dros ei wlad, a fe oedd y capten ar y noson.

Derbyniodd e rodd cyn y gêm gan ei arwr Neville Southall.

“Roedd o’n beth arbennig gweld Neville a chael y rhodd honno ganddo fo, arwr hollol,” meddai Hennessey wrth S4C.

Daeth Hennessey oddi ar y cae ar ôl awr, ac fe ddywedodd fod yr achlysur “yn foment arbennig iawn”.

“Ges i gymeradwyaeth hyfryd gan y cefnogwyr, pob un chwaraewr wedyn yn aros amdana i ar yr ystlys, a Gareth [Bale] yn aros amdana i hefyd.

“Roedd honno’n foment arbennig, i Gareth ddod ac aros amdana i – rydan ni mor agos.

“Ges i foment arbennig yn yr ystafell newid hefyd na welsoch chi.”