Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi mai cwmni seidr Thatchers o Wlad yr Haf yw noddwyr newydd eu pafiliwn, ar ôl iddyn nhw lofnodi cytundeb tair blynedd.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd y clwb y byddai Thatchers yn enw fydd yn amlwg i’w weld o amgylch y stadiwm yng Ngerddi Sophia, wrth iddyn nhw ddod yn brif ddarparwyr seidr yn y bariau hefyd.

Ymhlith y brandiau fydd yn cael eu gwerthu yno fel rhan o’r cytundeb mae Thatchers Gold, Thatchers Haze a’r seidr di-alcohol Thatchers Zero.

Dywed y cwmni eu bod nhw’n edrych ymlaen at “ddylifro’r peint perffaith o seidr i’r dorf yng Ngerddi Sophia yr haf yma”.

Yn ôl Morgannwg, mae’n “bartneriaeth newydd eithriadol o gyffrous gyda Thatchers Cide, brand sy’n cael ei adnabod ledled y byd ar ôl eu partneriaeth gyda Chwpan y Byd yn 2019”.

Maen nhw’n dweud mai Thatchers yw’r “partneriaid delfrydol” i Forgannwg fel “brand bywiog, hwyliog sydd yn angerddol am chwaraeon”.

Beirniadaeth

Ond nid pawb sy’n cytuno, gyda rhai yn cwestiynau pam nad yw Clwb Criced Morgannwg wedi dewis cwmni seidr o Gymru.

Ar dudalen Facebook Clwb Criced Morgannwg, mae cefnogwr o’r enw John Davies wedi awgrymu nifer o gwmnïau seidr yng Nghymru a allai fod wedi bod yn bartneriaid.

Yn eu plith mae Apple Country, Gwynt y Ddraig, Dee Ciders, Gethins Cider, Pontymeddyg a Seidr y Mynydd.

Mae’n awgrymu bod Morgannwg “wedi mynd am yr arian” drwy ddewis Thatchers, gyda chefnogwr arall, Richard Howells, yn gofyn “arian am beth? I dalu cyflogau mwy o has beens“.