Mae Pwyllgor Olympaidd Sbaen wedi cyhoeddi cytundeb rhwng Catalwnia ac Aragon i wneud cais i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 2030.
Daw hyn yn dilyn cadarnhad mai dinas Barcelona yng Nghatalwnia fydd yn cynnal Cwpan America’r byd hwylio yn 2024.
Ar ôl sawl mis a chwe sesiwn o drafodaethau, mae Catalwnia ac Aragon wedi dod i gytundeb ynghylch pwy fydd yn cynnal pa gystadlaethau.
Bydd yn rhaid i lywodraethau Catalwnia ac Aragon roi eu sêl bendith cyn i’r cais gael ei gyflwyno’n ffurfiol – mae adroddiadau bod llywodraeth Catalwnia eisoes wedi gwneud hynny, tra bod y llywodraeth yn Aragon yn oedi.
Mae disgwyl i ddinas Barcelona a mynyddoedd y Pyrenée gael rôl blaenllaw yn y cynlluniau, ond mae’n rhaid i chwe rhanbarth yng Nghatalwnia dderbyn y cynlluniau cyn i’r cais gael ei gyflwyno – Vall d’Aran, Pallars Sobirà, Pallars Jussà, Cerdanya, Alta Ribagorça ac Alt Urgell, er bod tair sir arall hefyd eisiau’r hawl i fynegi barn.
Mae disgwyl i wrthwynebwyr i’r cynlluniau gynnal protest fawr ar Fai 15.
Y cais
Mae lle i gredu mai’r bwriad ar hyn o bryd yw i Gatalwnia gynnal y cystadlaethau sgïo yn La Molina-Masella, ac eirafyrddio a chystadlaethau dull rhydd yn Baqueira Beret.
Mae disgwyl i sgïo mynydd, fydd yn gystadleuaeth newydd ym Milan ymhen pedair blynedd, gael ei gynnal yn ardal sgïo Boí Taüll.
Yn y cyfamser, bydd Aragon yn cynnal y biathlon, sgïo trawsgwlad a chystadlaethau sglefrio.