Mae Wayne Hennessey yn bwriadu parhau i chwarae i Gymru am gyn hired â phosib ar ôl ennill ei ganfed cap fory (dydd Mawrth, Mawrth 29).
Y gôl-geidwad, a fydd yn gapten i Gymru yn ystod y gêm gyfeillgar yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, fydd y trydydd Cymro, ar ôl Gareth Bale a Chris Gunter, i ennill cant o gapiau.
Mae cyn-gôl geidwad Cymru, Neville Southall, wedi annog Wayne Hennessey i anelu tuag at chwarae 150 o gemau dros ei wlad.
“Dw i ddim yn siŵr am 150, ond mae hynny’n neis yn dod gan Nev,” meddai Wayne Hennessey.
“Mae pawb yn gwybod be dw i’n feddwl am Nev. Fe yw fy arwr.
“Dw i am barhau mor hir ag y gallaf, a chynrychioli fy ngwlad am gyn hired ag y gallaf.”
‘Pob cap yn arbennig’
Mae Wayne Hennessey wedi chwarae dros 320 gêm i glybiau Wolves, Stockport, Yeovil, Crystal Palace, a Burnley, ond mae’n cael ei gysylltu’n bennaf â llwyddiant Cymru yn yr Ewros yn 2016 a 2020.
“Mae pob cap yn arbennig,” meddai Wayne Hennessey, a chwaraeodd am y tro cyntaf dros Gymru mewn gêm gyfeillgar erbyn Seland Newydd ym mis Mai 2007.
“Pryd bynnag dw i’n camu dros y llinell wen yna, mae’n achlysur arbennig.
“Rydych chi eisiau rhoi eich gorau, rydych chi’n cynrychioli eich cenedl a gobeithio y gallaf wneud hynny cymaint ag sy’n bosib. Pryd bynnag dw i’n cael fy newis, byddaf yn gwneud hynny.
“Dw i wedi cael cymaint o adegau arbennig, yn cymhwyso ar gyfer pencampwriaethau mawr.
“Dros y blynyddoedd, doedd e byth wir yn digwydd i Gymru. Fel plentyn yn tyfu fyny doedd e byth yn digwydd.
“Ond roedd 2016 yn arbennig (pan gyrhaeddodd Cymru rownd gynderfynol y Bencampwriaeth Ewropeaidd) ac mae e wedi gwella’n fawr.”
‘Haeddu’r holl glod’
Mae’n debyg y bydd Wayne Hennessey yn arwain tîm eithaf gwahanol nos fory, o gymharu â’r un wynebodd Awstria nos Iau.
Mae’r rheolwr, Robert Page, wedi addo gwneud newidiadau, ac mae hi’n debyg y bydd Gareth Bale, Aaron Ramsey, a Joe Allen yn cael gorffwys.
Wrth drafod gwneud Wayne Hennessey yn gapten, dywedodd Robert Page ei fod yn haeddu hynny.
“Mae arwain yr hogiau allan yn anrhydedd fawr a charwn roi’r rhwymyn ar ei fraich iddo wneud hynny,” meddai Robert Page.
“Mae’n haeddu’r holl glod y mae e am ei gael yn sgil yr hyn mae e wedi’i roi i’r wlad dros y blynyddoedd.”
Cyflwyno ‘chwaraewyr ymylol’ i’r gêm
Mae’r gêm gyfeillgar yn erbyn y Weriniaeth Tsiec wedi cael ei threfnu ar y funud ar olaf wrth i Gymru aros i chwarae naill ai’r Alban neu Wcráin fis Mehefin, y gêm olaf rhwng Cymru a Chwpan y Byd.
Bydd yr arian fydd yn cael ei godi’n sgil y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd fory yn mynd tuag at Apêl Ddyngarol DEC i Wcráin.
“Mae’r gêm bwysig inni wedi bod, ac yn ffodus fe gaethon ni ganlyniad cadarnhaol,” meddai Robert Page.
“Mae hyn yn rhoi cyfle i fi weld rhai o’r chwaraewyr ymylol, y rhai na wnaeth chwarae ddydd Iau ac sydd heb chwarae lot o funudau drosom ni ond sy’n gwneud yn dda iawn ar lefel y clybiau.
“Mae’n rhoi cyfle i ni ei ddefnyddio fel ymarfer er mwyn rhoi munudau iddyn nhw.
“Rydyn ni eisiau edrych ar eu holau nhw ar y lefel hon a’u cyflwyno nhw i bêl-droed ryngwladol cyn mis mawr ym mis Mehefin.”