Bydd cyfleusterau pêl-droed lleol dros Gymru’n derbyn £1.3m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gwneud gwelliannau.

Mae’r arian yn rhan o ymrwymiad gan Lywodraeth San Steffan i godi’r gwastad a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bobol gael mynediad at chwaraeon ac ymarfer corff dros wledydd Prydain.

Fe fydd 17 prosiect yng Nghymru’n derbyn arian er mwyn gwella caeau, ystafelloedd newid a chyfleusterau eraill.

Mae’r prosiectau wedi cael eu dewis am eu gallu i wella cyfleusterau mewn ardaloedd difreintiedig, eu gallu i ddarparu cyfleusterau ar gyfer mwy nag un gêm, a’u gallu i ddenu grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon ar y funud, megis menywod a chwaraewyr ag anableddau.

Bydd Ysgol Bryneilian yn Nyffryn Clwyd yn derbyn £180,000, Tŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd yn derbyn £185,000, a Clwb Pêl-droed Tref Pontarddulais yn derbyn £100,000.

Mae rhai o’r grwpiau eraill fydd yn cael arian yn cynnwys clybiau pêl-droed ym Mhenycae, Dolgellau, y Trallwng, y Mwmbwls, Abergwaun,  Brickfield Rangers yn Wrecsam.

Cymdeithas Bêl-droed Cymru sydd yn cyflwyno’r rhaglen yng Nghymru ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n falch o fod yn gweithio’n agos â Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i wella cyfleusterau dros Gymru ac rydyn ni’n ddiolchgar am eu cefnogaeth,” meddai’r prif weithredwr Noel Mooney.

“Gwella cyfleusterau dros Gymru yw prif flaenoriaeth strategol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae’r rownd gychwynnol hon o arian yn nodi dechrau taith gyffrous, a bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n parhau i weithio’n agos gyda’i holl randdeiliaid i greu cronfa fuddsoddi ar gyfer cyfleusterau er mwyn cyflwyno prosiectau effeithiol ymhob congl o Gymru wrth i ni drio gwneud pêl-droed mor gynhwysol a hygyrch â phosib.”

‘Manteision dirifedi’

Dywed Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, fod clybiau pêl-droed lleol wrth wraidd eu cymunedau, a’u bod nhw’n cynnig manteision iechyd a chymdeithasol “dirifedi” i blant ac oedolion.

“Maen nhw’n chwarae rhan bwysig a dw i’n falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud y buddsoddiad hwn mewn cyfleusterau ar hyd a lled Cymru, a bydd yn helpu’r clybiau a grwpiau sy’n derbyn yr arian hwn i barhau â’u gwaith arbennig,” meddai.

‘Hwb anhygoel’

“Does gan lot o gymunedau dros y wlad ddim mynediad at gyfleusterau chwaraeon o’r ansawdd uchaf, ond bydd yr hwb ariannol anhygoel hwn yn helpu i newid hynny,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, wrth groesawu’r cyhoeddiad.

“Mae yna nifer o fanteision iechyd meddwl i ymarfer corff, yn ogystal â’i fod yn gwella iechyd corfforol, a nawr fe fydd mwy o bobol yn gallu cymryd rhan a dechrau chwaraeon.”