Mae panel wedi dod i’r casgliad y dylid fod wedi tynnu Tomas Francis, prop tîm rygbi Cymru, oddi ar y cae yn ystod y gêm yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cafodd e ergyd i’w ben yn ystod hanner cynta’r golled o 23-19 yn Twickenham ar Chwefror 26, ac mae camerâu teledu’n ei ddangos yn cerdded yn simsan ar ôl taro i mewn i Owen Watkin, a bu’n rhaid iddo ddal postyn er mwyn codi ar ei draed.
Cafodd e asesiad wedyn gan feddyg annibynnol ac ar ôl cael parhau, daeth e oddi ar y cae yn y pen draw ar ôl 56 munud.
Tra bod y panel wedi dod i’r casgliad na ddylai fod wedi cael dychwelyd i’r cae, fydd neb yn wynebu camau disgyblu yn sgil y digwyddiad.
Mae trefnwyr y Chwe Gwlad yn dweud y byddan nhw’n cynnal trafodaethau er mwyn sicrhau nad oes digwyddiadau tebyg eto.
Mae’r panel wedi awgrymu “lleiafswm priodol” o sgriniau teledu ar ymyl y cae er mwyn monitro digwyddiadau, ac mae Undeb Rygbi Cymru’n dweud bod eu staff meddygol wedi ymddwyn yn gwbl briodol drwy gydol y digwyddiad.