Mae tîm pêl droed Cymru un gêm i ffwrdd o sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

Sgoriodd Gareth Bale ddwy gôl, gan gynnwys chwip o gic rydd, wrth i dîm Rob Page guro Awstria o 2-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd ganddyn nhw gyfnod nerfus i’w oroesi yn niwedd y gêm ar ôl i Marcel Sabitzer daro’n ôl i leihau’r fantais.

Ond arhosodd Cymru’n bwyllog i sicrhau bod y freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 yn dal yn fyw.

Maen nhw nawr yn wynebu gêm derfynol yn erbyn yr Alban neu Wcráin, a’r disgwyl yw y bydd yr ornest rhwng y ddwy wlad honno’n cael ei chynnal ym mis Mehefin.

Yr hanner cyntaf

Roedd amheuon am ffitrwydd Bale cyn y gêm, ac fe adawodd e’r cae yn dal ei goes, ond fe fydd Cymru’n teimlo rhyddhad ei fod e wedi llwyddo i bara cyhyd.

Erbyn hyn, mae e wedi sgorio 38 o goliau mewn 101 o gemau dros ei wlad, ac mae Cymru bellach yn ddi-guro mewn 17 o gemau ar eu tomen eu hunain – eu rhediad gorau erioed.

Roedd yn rhaid iddyn nhw chwarae heb Danny Ward a Kieffer Moore, ac roedd Aaron Ramsey ar y cae er nad oedd e’n gwbl holliach, gyda Wayne Hennessey, Ethan Ampadu a Harry Wilson hefyd yn dod i mewn i’r tîm.

Roedd Awstria, ddeg safle islaw Cymru yn rhestr ddetholion FIFA, wedi sgorio wyth gôl wrth guro Israel a Moldofa yn y gemau rhagbrofol, ond fe wnaethon nhw orffen yn bedwerydd yn eu grŵp gan sicrhau ail gyfle ar ôl ennill yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Dydy’r gwrthwynebwyr heno ddim wedi ennill gêm gystadleuol yn erbyn tîm sy’n uwch na nhw ers i Franco Foda gael ei benodi’n rheolwr bedair blynedd yn ôl.

Dechreuodd Cymru’n gadarn wrth brofi’r golwr Heinz Lindner ar ôl 75 eiliad, gyda Connor Roberts yn rhoi pwysau ar David Alaba o’r cychwyn cyntaf.

Daeth cyfle i Awstria ar ôl pum munud, wrth i Sabitzer greu cyfle i Christoph Baumgartner, ond tarodd ei ergyd Neco Williams ac yna’r trawst.

Bu bron i Aaron Ramsey rwydo oddi ar groesiad Daniel James wedyn, ond arhosodd Alaba yn gryf yn yr amddiffyn.

Daeth cyfle euraid i Gymru ar ôl 25 munud pan wnaeth Baumgartner atal rhediad Harry Wilson i roi cic rydd o 25 llathen.

Doedd Bale ddim wedi sgorio o gic rydd ers iddo fe guro Joe Hart yn erbyn Lloegr yn yr Ewros yn 2016, ond aeth y dorf yn wyllt wrth i’r bêl daro cefn y rhwyd oddi ar y trawst.

Bu bron i Ramsey ddyblu’r fantais bum munud cyn yr egwyl wrth dorri’n glir i wrthymosod, ond llwyddodd Lindner i gadw’r bêl allan o’r rhwyd.

Yr ail hanner

Dyblodd Gareth Bale fantais Cymru chwe munud wedi’r egwyl yn dilyn cic gornel fer, gyda Ben Davies a Daniel James yn cyfuno, James yn croesi a Bale yn symud ei draed yn gyflym i rwydo.

Daeth cyfle euraid eto fyth i Bale wrth iddo fe lygadu ei hatric, ond cafodd Cymru eu cosbi ar ôl 64 munud wrth i Sabitzer daro ergyd at Ben Davies, a’r bêl yn trechu Hennessey.

 

Efallai y dylai Cymru fod wedi cael cic o’r smotyn pan darodd y bêl fraich Sabitzer oddi ar gic rydd gan Bale, ond parhau i bwyso wnaeth Awstria wrth iddyn nhw geisio unioni’r sgôr.

Ond Cymru aeth â hi ac yng ngeiriau Dafydd Iwan, wnaeth berfformio cyn y gic cyntaf, mae Cymru “yma o hyd” – ac un gêm i ffwrdd o Gwpan y Byd.