Mae Boris Johnson wedi gwneud tro pedol ar ôl cefnogi Wcráin i gynnal cystadleuaeth bêl-droed Ewro 2028 – yn erbyn cais cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dweud ei fod e’n “llwyr ymroddedig” i’r cais yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Yn ystod taith i Frwsel ar gyfer uwchgynhadledd NATO i drafod Rwsia ac Wcráin, dywedodd Boris Johnson ei bod “y tu hwnt i ddychan” fod Rwsia wedi mynegi diddordeb i gynnal y gystadleuaeth yn 2028 neu 2032.

Dywedodd mai’r “peth gorau posib” oedd i Rwsia dynnu allan o Wcráin, ac i Wcráin gael cynnal y twrnament.

Eglurhad

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson ei fod e wedi gwneud y sylwadau wrth ymateb i’r awgrym y gallai Rwsia gynnal y twrnament er mwyn ceisio llwyfan rhyngwladol.

Dywedodd y llefarydd fod y prif weinidog am weld UEFA yn wfftio’r posibilrwydd y gallai Rwsia gynnal prif dwrnament pêl-droed rhyngwladol Ewrop, a bod cyrff llywodraethu chwaraeon wedi gwneud y peth “cyfrifol” wrth wahardd Rwsia rhag cymryd rhan mewn cystadlaethau.

Ychwanegodd y llefarydd fod wfftio Rwsia ar y llwyfan byd-eang “yn ffordd arall o roi pwysau ar Putin i droi’n ôl ac i newid cyfeiriad”.

Ar hyn o bryd, dydy Rwsia ddim wedi’u gwahardd rhag bod yn aelod o UEFA na FIFA, ond does ganddyn nhw mo’r hawl i gystadlu fel tîm cenedlaethol nac fel clybiau o dan faner Rwsia.

Mae UEFA yn dweud eu bod nhw’n parhau i fonitro’r sefyllfa.

Mae Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon bellach wedi cyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer Ewro 2028, ac fe ddywedodd Boris Johnson fod gan y cais “gefnogaeth lawn” Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Roedd hi’n ymddangos y byddai’r cais yn cael ei gyflwyno’n ddi-wrthwynebiad, ond fe gyflwynodd Rwsia gais hwyr ochr yn ochr â Thwrci.