Pan wnaeth tîm pêl-droed Cymru herio Awstria mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd fis Hydref 2016, roedden nhw newydd gael haf euraid yn yr Ewros yn Ffrainc.
Roedd Awstria wedi curo Georgia yn eu gêm agoriadol yn yr ymgyrch, a Chymru wedi rhoi crasfa o 4-0 i Moldofa.
Teithiodd 4,000 o’r Wal Goch i Fienna ar gyfer y gêm, ac fe rhoddodd y neges hon i’r tîm ar drothwy’r ornest drwy law golwg360.
Gêm gyfartal oedd hi yn y pen draw, gyda Marko Arnautovic yn taro’n ôl ddwywaith i Awstria, gyda goliau Cymru’n dod gan Joe Allen a Kevin Wimmer i’w rwyd ei hun.
Ond roedd y pwynt yn ddigon i gadw Cymru ar frig eu grŵp, ac fe wnaethon nhw orffen yn ail yn y pen draw y tu ôl i Wlad Belg.
Roedd Cymru ymhlith y ffefrynnau yn yr ymgyrch, ac roedd ganddyn nhw gyfle euraid i gymhwyso am y tro cyntaf ers 1958.
Ond cawson nhw ddigon o ganlyniadau siomedig ar hyd y daith, gan gynnwys gemau cyfartal yn erbyn Georgia a Serbia, a methon nhw â sgorio yn eu dwy gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Gemau cyfartal gawson nhw yn hanner eu gemau, gan ildio’r fantais mewn pedair gêm, a byddai’n rhaid aros pedair blynedd am gyfle arall.
Gyda’r gic gyntaf heno (nos Iau, Mawrth 24) am 7.45yh, mae cefnogwyr yn cael eu cynghori i fod yn eu seddi mewn da bryd ar gyfer perfformiad byw Dafydd Iwan am 7.15yh.