Mae Gareth Bale, sy’n dweud ei fod e’n holliach i herio Awstria nos Iau (Mawrth 24), yn credu y byddai’n “gamp anhygoel” pe bai’r tîm cenedlaethol yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd.
Doedd capten y tîm cenedlaethol ddim ar gael i Real Madrid ar gyfer ‘El Clasico’ yn erbyn Barcelona dros y penwythnos ar ôl cael ei anafu.
Ond mae disgwyl iddo fe ddechrau yn y crys coch yng Nghaerdydd, gyda’r dyfalu hefyd fod ei yrfa ryngwladol yn dirwyn i ben.
“Yn sicr, hon fydd un o’r gemau mwyaf dw i wedi chwarae ynddyn nhw,” meddai’r chwaraewr 32 oed.
“Mae cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn rywbeth dw i eisiau ei gyflawni er lles y cefnogwyr a’r wlad.
“Mae’n bendant yn gêm fawr, rydyn ni eisiau gwneud yn dda.
“Dw i’n cofio caru gwylio’r twrnament.
“Ronaldo o Frasil, pêl-droed samba, dyna fy atgofion cyntaf fwy na thebyg.
“Mae chwarae yng Nghwpan y Byd yn gwireddu breuddwydion pawb. Byddai gwneud hynny dros Gymru’n gamp anhygoel.
“Mae amser hir wedi bod.
“Ond rydyn ni’n meddwl am y gêm fory yn unig, a ddim yn rhy bell ymlaen llaw.”