Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi canmol doniau Brennan Johnson ar drothwy gêm fawr y tîm cenedlaethol yn erbyn Awstria, wrth iddyn nhw lygadu lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Mae Johnson yn un o chwaraewyr gorau’r Bencampwriaeth y tymor hwn, gydag 11 gôl ac mae e wedi creu chwe gôl, ac fe wnaeth e serennu ym muddugoliaeth Nottingham Forest dros Leicester City, deiliaid Cwpan FA Lloegr, yn y gêm gwpan fis diwethaf.

Mae Forest wedi codi o waelod y Bencampwriaeth i fod ymhlith y timau sy’n cystadlu am le yn y gemau ail gyfle ers i’r Cymro a chyn-reolwr Abertawe, Steve Cooper gael ei benodi’n rheolwr chwe mis yn ôl.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fu adroddiadau bod Brentford yn barod i dalu £20m am Johnson yn ystod y ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr.

“Roedd gan Brennan y potensial i symud ym mis Ionawr,” meddai Rob Page.

“Ond fe benderfynodd e aros oherwydd mae e gyda chlwb lle mae e’n mynd i chwarae a mwynhau ei bêl-droed.

“Mae hynny’n adrodd cyfrolau amdano fe. Wnaeth e ddim cwrso’r arian.

“Mae e bron yn chwaraewr cyflawn erbyn hyn, ac mae gan Forest chwaraewr rhyfeddol wrth law.

“Dw i wedi bod i’w wylio fe sawl gwaith, ac mae e’n chwarae â rhyddid.

“Mae e wir yn mwynhau ei bêl-droed.”

Gyrfa ryngwladol

Daeth cyfle Brennan Johnson yng nghrys Cymru yn dilyn cyfnod ar fenthyg yn Lincoln yn yr Adran Gyntaf y tymor diwethaf, lle sgoriodd e 13 gôl, sy’n fwy na’r un chwaraewr arall yn eu harddegau yng nghynghreiriau Lloegr.

Cynrychiolodd e dîm ieuenctid Lloegr, ond mae teulu ei fam yn hanu o Bowys, ac fe aeth yn ei flaen i ddewis cynrychioli Cymru dan 19 a 21.

Daeth ei gap cyntaf ar lefel oedolion yn erbyn yr Unol Daleithiau fis Tachwedd 2020, ond cafodd ei hepgor ar gyfer yr Ewros haf diwethaf.

Dechreuodd e gêm ryngwladol am y tro cyntaf yn y gêm gyfeillgar ddi-sgôr yn erbyn y Ffindir ym mis Medi, gan ennill cic o’r smotyn cyn i Harry Wilson fethu sgorio, a daeth e oddi ar y fainc wrth i Gymru sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ym mis Tachwedd.

Dewisiadau ymosodol

Mae gan Rob Page lu o ddewisiadau ymosodol ar gyfer y gêm ail gyfle yn erbyn Awstria yng Nghaerdydd nos Iau (Mawrth 24), gyda’r capten Gareth Bale, Daniel James, Harry Wilson a Brennan Johnson yn y ras i sicrhau lle yn y tîm.

“Yr hyn sy’n fy mhlesio i gyda Brennan yw ei fod e wedi mynd allan a gwneud y gwaith caib a rhaw,” meddai Rob Page.

“Aeth e allan i glwb mewn adran is a chwarae pêl-droed gystadleuol yn ifanc.

“Hyd yn oed tan 12 i 18 mis yn ôl, roedd yna gwestiynau yn ei gylch e ac a allai e fynd yr holl ffordd.

“Roedd yna gwestiwn am ei ddisgyblaeth heb y bêl, felly fe wnaethon nhw ei chwarae e fel chwaraewr yng nghanol cae i sicrhau ei fod e’n tracio chwaraewyr.

“Mae e wedi profi’r amheuon yn anghywir.

“Clod mawr iddo fe am y ffordd mae e’n chwarae, ac mae’n glod i’w dad – ei asiant – a sut mae Forest wedi ei ddatblygu fe.”