Mae Gareth Bale wedi bod yn ymarfer gyda charfan Cymru ar drothwy gêm fawr y tîm cenedlaethol yn erbyn Awstria ddydd Iau, wrth iddyn nhw lygadu lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Roedd Bale wedi colli gem Real Madrid yn erbyn Barcelona ddydd Sul lle cafodd ei dim eu curo 4-0. Dywedodd rheolwr Real Madrid Carlo Ancelotti ar ôl y gêm nad oedd Bale “yn teimlo’n dda”.

Yn ôl adroddiadau yn Sbaen roedd capten Cymru yn dioddef o boen yn ei gefn.

“Roedd e wedi trio eto bore ma ond doedd e ddim yn teimlo’n ddigon da i chwarae,” meddai Carlo Ancelotti ddydd Sul.

“Mae e nawr am ymuno a’i garfan genedlaethol ac fe fyddan nhw’n penderfynu a fydd e’n chwarae neu beidio.”

Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, fe fydd Bale yn holliach yn chwarae yn erbyn Awstria yng Nghaerdydd ddydd Iau (24 Mawrth).

Fe fu carfan Rob Page yn ymarfer ym Mro Morgannwg heddiw (22 Mawrth) cyn y gêm ail gyfle yn erbyn Awstria pan fydd Cymru’n gobeithio sicrhau eu hymddangosiad cyntaf mewn Cwpan Byd ers 1958.

Os ydyn nhw’n curo Awstria fe fyddan nhw wedyn yn chwarae yn erbyn yr Alban neu Wcráin. Mae’r gêm honno wedi cael ei gohirio oherwydd ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ac mae disgwyl i’r gêm nawr gael ei chwarae ym mis Mehefin.