Mae Terry Darracott, cyn-chwaraewr Wrecsam ac Everton, wedi marw’n 71 oed.

Chwaraeodd y cefnwr chwith 148 o gemau i Everton rhwng 1967 a 1979, ac fe dreuliodd e flwyddyn yn Tulsa yn yr Unol Daleithiau cyn dychwelyd i chwarae gyda Wrecsam yn 1979-80.

Ar ôl ymddeol, bu’n hyfforddwr gydag Everton, Manchester City a Blackburn, cyn mynd yn is-reolwr Dean Saunders yn Wrecsam yn 2008.

“Rydyn ni’n drist yn sgil y newyddion fod ein cyn-chwaraewr a hyfforddwr Terry Darracott wedi marw’n 71 oed,” meddai Everton mewn datganiad.

“Roedd Terry yn ffigwr eithriadol o boblogaidd yn y gêm, a bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith pawb oedd yn ei adnabod.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Terry.”