Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhan o fynegiant o ddiddordeb mewn cyflwyno cais i gynnal Ewro 2028 yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon wedi dod ynghyd i ystyried cynnal y gystadleuaeth ymhen chwe blynedd.
Daw hyn ar ôl iddyn nhw gwblhau astudiaeth ddichonolrwydd i ystyried y manteision lleol o gynnal prif gystadleuaeth ryngwladol Ewrop.
Mae’r llywodraethau hefyd wedi datgan eu cefnogaeth, a chan nad yw Llywodraeth Gogledd Iwerddon yn cyfarfod yn rheolaidd ar hyn o bryd, maen nhw’n parhau i fonitro’r sefyllfa.
Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, byddai Ewro 2028 yn un o’r digwyddiadau chwaraeon gorau erioed yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, ac fe fyddai’n ddi-gynsail wrth i’r holl wledydd ddod ynghyd i gyflwyno un cais ar y cyd.
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o gynlluniau dros y misoedd i ddod wrth i UEFA gyhoeddi rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, gan gynnwys trafodaethau â dinasoedd a chaeau fyddai’n cynnal gemau a chostio llawn o’r digwyddiadau.
“Rhaid i bêl-droed wneud popeth posib i ddangos sut gall ein camp fod yn rym tros ddaioni – nawr yn fwy nag erioed,” meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Rydym yn benderfynol o ran ein bod yn credu yng ngrym pêl-droed i helpu i ddod â phobol ynghyd.
“Edrychwn ymlaen nawr at dderbyn rhagor o ofynion y twrnament a pharhau â’n sgwrs adeiladol gydag UEFA i fwrw ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer y cais.”