Mae Prif Weinidog Cymru wedi dymuno pob lwc i dîm rygbi merched Cymru ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe fydd Mark Drakeford yn ymuno â’r garfan wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn (Mawrth 26).

Dyma’r tro cyntaf i chwaraewyr proffesiynol o Gymru ymddangos yn y gystadleuaeth, ar ôl i 12 o gytundebau llawn amser gael eu llofnodi yn gynharach yn y flwyddyn.

Yn ystod ei ymweliad â’r garfan o 37 o chwaraewyr, fe fydd Mark Drakeford yn trafod yr angen i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i ferched mewn chwaraeon.

Bydd hefyd yn nodi bod angen cael mwy o ferched wedi’u cofrestru gyda thimau yng Nghymru, er bod y ffigwr eleni (5,000) yn uwch nag erioed.

“Mae’n wych cael cwrdd â thîm Rygbi Merched Cymru heddiw i ddymuno pob lwc cyn y Chwe Gwlad,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r tîm yn ysbrydoliaeth ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel.

“Mae angen ei gwneud yn haws i fenywod a merched gael cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru.”

‘Golygu cymaint i ni’

Mae Siwan Lillicrap, capten Cymru, wedi ategu’r alwad, gan sôn am ei phrofiadau ei hun yn dechrau chwarae’r gamp.

Mae hi’n un o’r 12 sydd wedi derbyn cytundeb llawn amser gan Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’n wych gweld cynifer o fenywod a merched yn cymryd rhan mewn rygbi,” meddai.

“Ches i ddim cyfle i chwarae rygbi tan oeddwn i’n 17 oed, ond erbyn hyn mae llwybr clir i ferched chwarae’r gêm o oedran ifanc hyd at lefel uwch rygbi, ac mae’n braf gweld cymaint o frwdfrydedd i gymryd rhan.

“Mae’n golygu cymaint i ni fel chwaraewyr allu gwireddu’n breuddwyd a dod yn athletwyr llawn-amser ac yn y pen draw, hoffen ni ysbrydoli merched iau, p’un a ydyn nhw’n mynd ymlaen i chwarae rygbi rhyngwladol neu’n mwynhau manteision y gêm gymunedol.”

 

Cytundebau llawn amser “am newid bywydau” chwaraewyr rygbi merched Cymru

“Rydyn ni mewn amgylchedd hyfforddi’n amlach ac rydyn ni yn broffesiynol nawr,” medd capten Cymru

Merched angen help ariannol ac emosiynol i chwarae rygbi ar y lefel uchaf

Gwern ab Arwel

“Mae angen [i’r Undeb Rygbi] greu llwybr mwy pendant i genod gael cyrraedd lefel broffesiynol”