Penwythnos osgoi anafiadau a oedd hi’r wythnos hon, y penwythnos hwnnw rhwng enwi’r garfan genedlaethol a’r gemau ei hunain. I’r rhai na chafodd eu henwi, mater o greu argraff rhag ofn.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd buddugoliaeth wych i Leeds mewn gêm gyffrous yn erbyn Wolves nos Wener. Ar ôl bod ddwy gôl i ddim ar ei hôl hi ar hanner amser, daethant yn ôl i gipio’r tri phwynt gyda thair gôl yn yr ail hanner wedi i’w gwrthwynebwyr fynd i lawr i ddeg dyn.

Chwaraeodd Dan James y gêm gyfan, fel y mae gofyn i unrhyw chwaraewr Leeds sydd yn ffit ei wneud y tymor hwn! Mae eu rhestr anafiadau yn draethawd hir sydd, fel y bydd cefnogwyr Cymru yn gwybod, bellach yn cynnwys Tyler Roberts.

Un arall sydd ddim ar gael i’w glwb na Chymru oherwydd anaf yw Danny Ward ac felly nid oedd yng ngharfan Caerlŷr ddydd Sul. Brentford a oedd eu gwrthwynebwyr ac nid oedd Fin Stevens yn eu carfan hwy er ei fod yn holliach ac yng ngharfan dan 21 Cymru.

Tottenham yn erbyn West Ham a oedd y gêm hwyr brynhawn Sul. Chwaraeodd Ben Davies y gêm gyfan ac roedd Joe Rodon ar y fainc wrth iddynt ennill o dair i un.

 

*

 

Cwpan FA

Dechreuodd Neil Taylor i Middlesbrough yn eu gêm yn erbyn Chelsea yn wyth olaf y Cwpan nos Sdwrn. Mae’r Cymro yn dechrau’n rheolaidd ar hyn o bryd ond cafodd yr ôl-asgellwr ei eilyddio’n gynnar yn ail hanner y gêm hon wedi i ddwy gôl Chelsea yn yr hanner cyntaf ddod i lawr eu hasgell dde hwy, chwith Boro.

Roedd rownd go-gynderfynol y Cwpan yn lwyfan mawr i Brennan Johnson greu argraff nos Sul wrth i’w dîm, Nottingham Forest, groesawu Lerpwl i’r City Ground. Roedd y Cymro’n ddistaw yn yr hanner cyntaf ond yn un o chwaraewyr amlycaf yr ail hanner yn creu dau gyfle euraidd i’w gyd chwaraewyr. Colli o gôl i ddim a fu eu hanes serch hynny.

Brennan Johnson

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Roedd hoe i ambell dîm y penwythnos hwn oherwydd gemau cwpan i dimau eraill. Roedd Caerdydd a Fulham yn eu plith felly dim perygl o anafiadau i Will Vaulks, Rubin Colwill, Mark Harris, Neco Williams a Harry Wilson cyn ymuno â’r garfan genedlaethol.

Gêm ddi sgôr a gafodd Abertawe, gartref yn erbyn Birmingham. Chwaraeodd Ben Cabango y gêm gyfan i’r Elyrch ac roedd Cameron Congreve ar y fainc ar ôl cael ei enwi yng ngharfan dan 18 Cymru’r wythnos hon.

Roedd Jordan James ar fainc y gwrthwynebwyr yn Stadiwm Swansea.com a chafodd yntau hefyd ei enwi yn y garfan dan 18 honno yn wreiddiol. Syndod i’r rhai a oedd yn hanner disgwyl iddo gael ei enwi yng ngharfan y tîm cyntaf, neu’r tîm dan 21 o leiaf. Ac ymddengys iddi fod yn dipyn o syndod i James ei hun hefyd gan iddo dderbyn cynnig i ymuno â charfan dan 20 Lloegr ychydig ddyddiau’n ddiweddarach!

Un a fydd yn siomedig nad oedd yn y brif garfan fydd Tom Lawrence. Dechreuodd capten Derby i’w glwb ddydd Sadwrn gan sgorio’r gic o’r smotyn a achubodd bwynt i’w dîm yn erbyn Coventry.

Gall Tom Lockyer fod yn siomedig iawn nad yw yng ngharfan Page hefyd, yn enwedig gan ei fod yn ymddangos yn holliach. Nid oedd yng ngharfan Luton ar gyfer y gêm ganol wythnos yn erbyn Preston ond roedd ar y fainc yn erbyn Hull ddydd Sadwrn a daeth ymlaen fel eilydd yn gynnar yn yr ail hanner wrth i’w dîm ennill o dair gôl i un.

Roedd absenoldeb Lockyer yn fwy o syndod o ystyried nad yw Chris Mepham yn ymddangos yng ngharfan Bournmeouth ar hyn o bryd. Nid oedd ynddi eto’r penwythnos hwn wrth iddynt ennill yn gyfforddus yn Huddersfield. Chwaraeodd Sorba Thomas y gêm gyfan i’r gwrthwynebwyr.

Chwaraeodd Joe Allen 90 munud wrth i Stoke guro Millwall o ddwy gôl i ddim ond nid oedd Adam Davies, James Chester na Morgan Fox yn y garfan. Roedd hi’n braf gweld Tom Bradshaw yn dychwelyd i Millwall wedi cyfnod hir gydag anaf, yn chwarae’r hanner awr olaf ar ôl dechrau ar y fainc.

Chwaraeodd Rhys Norrington Davies y gêm gyfan wrth i Sheffield United guro Barnsley a chafodd Ryan Hedges hanner awr fel eilydd i Blackburn yn Reading.

Taith Peterborough i Loftus Road i wynebu QPR a oedd yr unig gêm ddydd Sul a chododd Y Posh oddi ar waelod y tabl gyda buddugoliaeth o dair gôl i un. Dave Cornell a oedd yn y gôl i’r buddugwyr a daeth George Thomas i’r cae fel eilydd i QPR gydag ychydig dros hanner awr i fynd.

 

*

 

Cynghreiriau is

Gellid dadlau fod Chris Gunter braidd yn ffodus i fod yng ngharfan Cymru o ystyried ei ddiffyg munudau i Charlton yn yr Adran Gyntaf y tymor hwn. Ar y fainc yr oedd unwaith eto wrth iddynt guro Burton o ddwy i ddim ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Adam Matthews y gêm gyfan.

Dechrau ar y fainc a wnaeth Joe Morrell i Portsmouth hefyd yn erbyn Wycombe cyn dod i’r cae fel eilydd yn lle ei gyd wladwr, Louis Thompson, toc cyn yr awr. Dechreuodd Joe Jacobson a Sam Vokes i Wycombe a gorffen yn ddi sgôr a wnaeth hi.

Roedd sawl Cymro ar y cae wrth i Bolton guro Crewe o gôl i ddim. Chwaraeodd Declan John a Jordan Williams i Bolton ac roedd Dave Richards, Zac Williams a Tom Lowery yn nhîm Crewe.

Roedd Wes Burns yn amlwg i Ipswich unwaith eto, yn creu’r gôl i Bersant Celina a achubodd bwynt iddynt yn erbyn Rhydychen. Nid oedd Lee Evans yng  ngharfan Ipswich ond dechreuodd Billy Bodin i’r gwrthwynebwyr.

Roedd buddugoliaeth gyfforddus i Plymouth yn erbyn Accrington. Dechreuodd James Wilson, roedd deg munud oddi ar y fainc i Ryan Broom ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Luke Jephcott. Pedair i ddim y sgôr gyda Wilson yn creu’r drydedd i Niall Ennis.

Chwaraeodd Regan Poole a Joe Walsh y gêm gyfan yn amddiffyn Lincoln wrth iddynt gael gêm ddi sgôr yn erbyn Sunderland ac roedd deg munud oddi ar y fainc i’r ymosodwr sydd ar fenthyg o Abertawe, Liam Cullen.

Roedd Owen Evans a Ben Williams yn nhîm Cheltenham wrth iddynt guro Wimbledon o dair gôl i un.

Eilydd hwyr a oedd Gwion Edwards i Wigan wrth iddynt gael buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Morecambe.

Parhau i’w chael hi’n anodd sicrhau ei le yn nhîm ei glwb newydd y mae Matthew Smith. Ar y fainc yr oedd y chwaraewr canol cae i’r MK Dons unwaith eto’r penwythnos hwn.

Dychwelodd Tom King i garfan Cymru’r wythnos hon a dathlodd gyda buddugoliaeth gyfforddus gyda’i glwb, Salford, yn yr Ail Adran. Pum gôl i un y sgôr yn erbyn Scunthorpe.

Tom King

Hefyd yn yr Ail Adran, colli a fu hanes Swindon, o dair gôl i un, yn erbyn Crawley. Dechreuodd Jonny Williams ac roedd yn rhan o unig gôl ei dîm, yn creu i Josh Davison. Creodd un o goliau Swindon ganol wythnos hefyd wrth iddynt guro Sutton. Nid oedd Brandon Cooper yn y garfan oherwydd anaf ac mae allan o garfan dan 21 Cymru hefyd.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Gyda Morrell wedi’i wahardd ar gyfer gêm Awstria, yn ddibynnol ar ble y bydd Ampadu yn chwarae, mae’n bosib y bydd Rob Page yn chwilio am ail chwaraewr canol cae amddiffynnol i ddechrau gydag Allen. Dylan Levitt yw un o’r rheiny sydd yn y garfan ac mae wedi bod yn chwarae’n dda i Dundee United yn ddiweddar. Chwaraeodd y gêm gyfan yn erbyn St Mirren ddydd Sadwrn gan sgorio’r gôl a unionodd y sgôr i’w dîm cyn iddynt gipio buddugoliaeth o ddwy i un gyda gôl hwyr.

Dychwelodd Marley Watkins i garfan Aberdeen wedi cyfnod allan ar gyfer eu gêm gyda Hibs. Daeth i’r cae gyda deuddeg munud yn weddill gan greu’r drydedd gôl i Vicente Besuijen mewn buddugoliaeth o dair i un. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Christian Doidge i Hibs.

Gwylio o’r fainc wrth i’w dîm golli a wnaeth Morgan Boyes hefyd. Hearts a oedd y gwrthwynebwyr gyda Ben Woodburn yn eilydd hwyr i’r tîm o Gaeredin wrth iddynt ennill o ddwy gôl i ddim.

Wedi bod ar y fainc yn y gêm Ewropeaidd yn erbyn Red Star Belgrade ganol wythnos, fe ddechreuodd Aaron Ramsey i Rangers yn y gynghrair am y tro cyntaf ddydd Sul. Dundee a oedd y gwrthwynebwyr ac ni wnaeth pethau ddechrau’n dda i’r Cymro ag yntau ar fai am gôl agoriadol Dundee wedi chwe munud. Tyfodd i’r gêm wedi hynny ac ef a unionodd bethau i’r ymwelwyr toc wedi’r awr. Chwaraeodd 84 munud ac aeth ei dîm ymlaen i ennill y gêm o ddwy gôl i un.

Aaron Ramsey

Ag yntau allan o garfan Cymru oherwydd anaf, yn naturiol nid oedd James Lawrence yng ngharfan St. Pauli dros y penwythnos ychwaith.

Roedd hi’n ddiwrnod da i Rabbi Matondo pan gafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru ddydd Mercher, ond nid oedd nos Sadwrn yn gystal noson, wrth iddo gael ei eilyddio ar hanner amser gyda’i dîm, Cercle Brugge, bedair gôl i ddim ar ei hôl hi yn erbyn Charleroi ym mhrif adran Gwlad Belg. Gorffennodd hi’n bump i ddim.

Sampdoria a oedd gwrthwynebwyr Venezia yn Serie A ddydd Sul. Chwaraeodd Ethan Ampadu y gêm gyfan yng nghanol cae wrth iddynt golli o ddwy gôl i ddim ac aros yn safleoedd y gwymp.

El Clasico oedd gêm hwyr yn La Liga nos Sul ond nid oedd Gareth Bale yng ngharfan Real er gwaethaf ei gampau yn y gemau hynny yn y gorffennol.