Bydd ymgyrch tîm rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad – un sydd wedi bod yn ddigon siomedig i ddynion Wayne Pivac – yn dod i ben yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd fory (dydd Sadwrn, Chwefror 19).

Ar ôl dod i mewn i’r ymgyrch yn bencampwyr, maen nhw wedi colli tair gêm eleni, er mai o drwch blewyn y collon nhw yn erbyn Lloegr a’r Alban ar ôl crasfa gan Iwerddon.

Yn y cyfamser, mae’r Eidal am orffen ar waelod y tabl unwaith eto, gyda’r cwestiynau am eu dyfodol yn y gystadleuaeth yn parhau.

Er gwaetha’r ymgyrch siomedig, gallai Cymru orffen yn drydydd yn y tabl o hyd, pe baen nhw’n curo’r Eidal a chipio pwynt bonws ond maen nhw hefyd yn ddibynnol ar Loegr a’r Alban am gymorth, gyda Ffrainc ac Iwerddon yn brwydro i fod yn bencampwyr.

Mae anafiadau wedi bod yn destun rhwystredigaeth i garfan Wayne Pivac, gydag enwau mawr fel George North, Leigh Halfpenny, Ken Owens a Justin Tipuric allan am y gystadleuaeth gyfan, tra bod enwau mawr eraill wedi bod yn mynd a dod.

Un ohonyn nhw yw’r ffigwr mwyaf dylanwadol oll, efallai, sef Alun Wyn Jones sydd yn dychwelyd i ennill cap rhif 150, gyda Dan Biggar hefyd yn ennill ei ganfed cap.

Gêm ymosodol

O ystyried bod angen gorffen y gystadleuaeth yn gryf a sgorio cynifer o bwyntiau â phosib, fe fydd Cymru’n sicr o chwarae’n ymosodol yn erbyn tîm gwanna’r bencampwriaeth.

Sgorion nhw 20 o geisiau y tymor diwethaf, ond pum cais yn unig maen nhw wedi’u sgorio mewn pedair gêm eleni – a thri o’r rheiny yn yr ail hanner yn erbyn Lloegr yn Twickenham.

Sgoriodd yr asgellwr Louis Rees-Zammit bedwar cais yn ei bum gêm y llynedd, ond dydy e ddim wedi bod ar ei orau ers gwella o anaf i’w ffêr, gan golli’r gêm yn erbyn Lloegr a chymryd ei le ar y fainc yn erbyn Ffrainc.

Ond o ystyried perfformiadau’r Eidal – 36 colled yn olynol – hon yw’r gêm ddelfrydol i Rees-Zammit ddechrau croesi’r llinell gais unwaith eto.

Dyma’r seithfed tymor yn olynol i’r Eidalwyr orffen â’r llwy bren, ac fe aeth saith mlynedd heibio bellach ers iddyn nhw ennill gêm yn y Chwe Gwlad (22-19 yn erbyn yr Alban ym Murrayfield oedd eu buddugoliaeth ddiwethaf).